Dai Greene
Dai Greene pencwmpwr y Gymanwlad am redeg 400m dros y clwydi ac Aled Davies y pencampwr byd am daflu’r ddisgen yw’r aelodau amlwg yng ngharfan athletau Cymru ar gyfer y Gemau yn Glasgow.  Mae 33 o athletwyr yn y garfan sy’n cynnwys chwe athletwr paralympaidd.

Mae nifer o’r garfan wedi eu cynnwys am y tro cyntaf, yn eu plith y wibwriag 16 oed Hannah Brier o Abertawe sy’n cystadlu yn y ras gyfnewid 4x100m.

Er bod y gwibiwr Rhys Jones a’r rhedwr 800m Joe Thomas wedi eu dewis bydd yn rhaid iddyn nhw brofi eu ffitrwydd.  Nid oes lle i’r gwibiwr Christian Malcolm gan iddo fethu â rhedeg y 200m o fewn yr amser penodedig.

‘‘Yr ydym wedi dewis carfan fawr sy’n dangos cryfder a dyfnder y gamp yng Nghymru ar hyn o bryd,’’ meddai Scott Simpson, Hyfforddwr Perfformiad Cenedlaethol Athletau Cymru.

Yn ôl Chris Jenkins Prif Weithredwr Cymru ar Gyngor Gemau’r Gymanwlad mae yna gymysgedd dda o athletwyr profiadol a rhai fydd yn dechrau eu gyrfa, ac mi fydd yn ddiddorol iawn eu gwylio.