Mae tîm rygbi Cymru yn hedfan i Dde Affrica heddiw ar gyfer y gemau prawf a fydd yn dechrau’r penwythnos nesaf.

Un chwaraewr sydd heb chwarae ar dir De Affrica yw’r wythwr Taulupe Faletau, ond mae’n ymwybodol o’r her sydd o flaen Cymru.

Er i Dde Affrica eistedd o dan Seland Newydd yn nhabl y safleoedd, maent ar y brig o ran y gêm gorfforol.  Ymysg blaenwyr De Affrica bydd Victor Matfield, Bakkies Botha, Bismarck du Plessis, Willem Alberts, Francois Louw a Tendai Mtawarira.

‘‘Rydym yn gwybod beth fyddan nhw’n ei wneud, maen nhw’n dîm corfforol.  Dwi erioed wedi chwarae yn Ne Affrica, ac rwy’n siŵr y bydd hi’n brofiad i nifer o chwaraewyr eraill,’’ meddai Faletau.

Fe wnaeth Faletau perfformio’n dda yn ystod y Probables v Possibles ac yn dangos pwysigrwydd Faletau yn y reng-ôl i Gymru.  Ni fydd Sam Warburton nac ychwaith Justin Tipuric ar gael oherwydd anafiadau, ac mae Dan Lydiate yn dioddef o anaf i linyn y gar ar hyn o bryd.