Scarlets 27–15 Gleision Caerdydd
Y tîm cartref aeth â hi ar Barc y Scarlets nos Sadwrn wrth i’r Gleision ymweld â’r gorllewin ar ddiwrnod olaf tymor y RaboDirect Pro12.
Er i’r Gleision gael eu cyfnodau, fe groesodd Bois y Sosban am dri chais mewn buddugoliaeth gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Scarlets yn dda ac roeddynt saith pwynt ar y blaen o fewn chwarter awr diolch i gais Rhodri Williams. Croesodd y mewnwr o dan y pyst wedi bylchiad da Jake Ball.
Daeth y Gleision yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn ôl o fewn pwynt pan groesodd Macauley Cook yn y gornel chwith wedi pas dda Filo Paulo.
Cyfnewidiodd Simon Humberstone a Rhys Priestland gic gosb yr un wedi hynny wrth i’r Scarlets fynd i mewn ar yr egwyl gyda mantais fain o ddau bwynt.
Ail Hanner
Patrwm digon tebyg oedd i’r ail hanner – Scarlets yn dechrau’n gryf cyn i’r Gleision daro nôl.
Croesodd y tîm cartref am gais dri munud yn unig wedi’r egwyl a chais da ydoedd hefyd wrth i Liam Williams guro tri dyn mewn ymdrech unigol wych.
Cais cosb ddaeth â’r Gleision yn ôl i’r gêm toc cyn yr awr wrth i sgarmes symudol gael ei dymchwel wrth iddi groesi’r llinell gais, 17-15 y sgôr o blaid y Scarlets gyda chwarter y gêm i fynd.
Ond enillodd Bois y Sosban yn gymharol gyfforddus yn y diwedd diolch i ddeg pwynt gan Steven Shingler yn y deg munud olaf. Sgoriodd y canolwr gic gosb a throsgais wrth i’r tymor ddod i ben ar nodyn uchel i’r rhanbarth o’r gorllewin.
Mae’r Scarlets yn gorffen y tymor yn chweched yn y Pro12, bedwar pwynt ar ddeg uwch ben y Gleision yn y seithfed safle.
.
Scarlets
Ceisiau: Rhodri Williams 13’, Liam Williams 43’, Steven Shingler 75’
Trosiadau: Rhys Priestland 13’, Steven Shingler 44’, 76’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 40’, Steven Shingler 70’
.
Gleision
Ceisiau: Macauley Cook 18’, Cais Cosb 54’
Trosiad: Simon Humberstone 55’
Cic Gosb: Simon Humberstone 24’