Cyfarfu Caerfyrddin a’r Rhyl ym Mhort Talbot gan fod Parc Waun Dew yn rhy wlyb unwaith eto, a’r tîm o aber Clwyd ymdopodd orau gyda gwynt cryf Bae Baglan.

1-1 oedd hi hanner amser ond stori wahanol oedd hi yn yr ail hanner wrth i’r Rhyl sgorio pum gôl, gan gynnwys dwy gic o’r smotyn. Cafodd capten Caerfyrddin, Carl Evans ei anfon o’r cae am lawio’r bêl wrth ei gôl ei hun.

Brwydr ogleddol fydd hi Dydd Sadwrn nesa wrth i’r Rhyl a Bangor fynd ben-ben yn Nantporth i benderfynu pa un o dimau Uwchgynghrair Corbett Sports fydd yn cipio’r trydydd safle, a lle yn Ewrop.