Logo clwb rygbi Rhuthun
Rhuthun 16 – 18 Nant Conwy
Syrthiodd Rhuthun i’r chweched safle yn y tabl ar ôl colli o drwch blewyn yn erbyn Nant Conwy ddydd Sadwrn.
Fe gychwynnodd y Gleision yn gryf ac roedden nhw tri phwynt ar y blaen wedi pum munud ar ôl i’r cefnwr Sion T Roberts lwyddo â chic gosb.
Methodd Nant ymgais at y pyst, ac er i Ruthun fynd lawr i 14 dyn ar ôl derbyn cerdyn melyn fe aethon ymhellach ar y blaen gyda chig gosb arall gan Roberts.
Roedd Rhuthun yn chwarae’n dda ac yn bygwth amddiffyn Nant ar sawl achlysur, ond fe wnaeth sawl camgymeriad wrth basio eu hatal rhag chwarae.
Ail hanner
Sgoriodd Nant gais yn syth ar ôl y toriad gan gau’r bwlch ar Ruthun.
Bu bron iddynt sgorio eto ond am waith gwych yr eilydd Jonny Davies, a ruthrodd i lawr y cae a taro chwaraewr Nant dros yr ystlys.
Wedi cicio da yn yr hanner cyntaf, methodd y Gleision dri cyfle i leihau’r bwlch yn yr ail hanner, ac fe aeth Nant ymhellach ar y blaen gyda chic gosb eu hunain.
Unwaith eto fe gollodd Rhuthun ddyn i’r gell gosb, ac er iddynt amddiffyn yn dda yn erbyn chwarae ymosodol Nant, fe sgoriodd Nant unwaith eto gan ymestyn eu mantais i 18-6.
Gydag wyth munud i fynd, fe ddechreuodd Rhuthun ganolbwyntio eto ac ar ôl pwysau da gan Ben Syme, fe sgoriodd y Gleision eu cais cyntaf.
O fewn ychydig funudau, sgoriodd y clo, Rob Moore ail gais i Ruthun.
Gyda’r sgor yn 18-16, roedd hi’n edrych fel y gallai’r Gleision gipio’r fuddugoliaeth, ond fe redwyd allan o amser ac fu’n rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws.
Er bod y Gleision yn teimlo eu bod wedi colli cyfle i sicrhau eu safle ymysg y pedwar uchaf, cafwyd perfformiadau unigol da gan Andrew Becker a Tudur Parry.
Adroddiad gan Lois Jones