Rhys Priestland - cic gosb a throsiad
Leinster 26 Scarlets 15

Roedd yna ddau gais a llwyth o gamgymeriadau gan y Scarlets wrth iddyn nhw lithro i’r chweched lle yng Nghynghrair Magners.

Fwy nag unwaith fe adawson nhw i Leinster godi’r pwysau a rhoi cyfleoedd iddyn nhw sgorio.

Dyna oedd y stori yn yr hanner cynta’ wrth i’r Cymry gael llawer o’r meddiant ond heb ddim ond un gic gosb gan Rhys Priestland i ddangos hynny.

Roedd y Scarlets ar ei hôl hi o 10-3 bryd hynny er bod chwaraewyr rhyngwladol fel Priestland, Josh Tunrbull, Rob McCusker a Tavis Knoyle yn ôl yn y tîm.

Leinster a gafodd fwya’ o feddiant yn yr ail hanner, gyda chicio Jonathan Sexton ac ail gais yn eu gosod ymhell ar y blaen.

Ond roedd yna geisiau i’r Scarlets hefyd – y cynta’ gan Rhys Thomas a’r ail yn y funud ola’ pan oedd capten y Scarlets, Gareth Maule, yn y gell gosb.

Hwnnw oedd y cais cynta’ erioed tros y rhanbarth i’r chwaraewr ifanc Nick Reynolds – ychydig o gysur i’r hyfforddwr, Nigel Davies, ar ddiwedd y gêm.