Andy Powell
Fe fydd Andy Powell yn arwyddo cytundeb dwy flynedd newydd gyda Wasps ac mae’n gobeithio chwarae i Gymru unwaith eto yn erbyn Iwerddon.

Mae Powell wedi bod yn absennol o garfan Cymru yn ystod y ddwy gêm ddiwethaf ar ôl iddo ddioddef anaf yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

“Rwy’n mynd i arwyddo am ddwy flynedd arall ac fe ddylai popeth fod wedi’i gwblhau erbyn y penwythnos,” meddai Andy Powell wrth bapur y Western Mail.

“Doeddwn i ddim wedi ystyried cynigion wrth glybiau eraill. Rwy’n hapus gyda Wasps.

“Mae symud i Wasps wedi cael y gorau allan ohona’i ac rwy’n edrych ‘mlaen i fod yma am ddwy flynedd arall.”

Mae chwaraewr rheng ôl Cymru yn gobeithio dychwelyd i’r garfan ryngwladol i wynebu’r Gwyddelod yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos nesaf.

“Mae’r rheng ôl wedi gwneud yn dda ac mae Ryan Jones wedi cymryd ei gyfle,” meddai.

“Mae hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i mi ddod ‘nôl mewn i’r tîm. Ond mae gen i ffydd yn fy ngallu.

“Rydw i wedi chwarae gêm lawn y penwythnos diwethaf ac rwy’n gobeithio cael 80 munud arall yn erbyn Sale ddydd Sul.

“Rwy’n gobeithio y bydda’i ar y fainc yn erbyn Iwerddon wedyn.”