Gleision 21–13 Dreigiau

Y Gleision aeth â hi yn y gêm ddarbi ar Barc yr Arfau brynhawn Mercher er mai’r Dreigiau sgoriodd unig gais y gêm.

Cicio cywir Rhys Patchell, Gareth Davies, ac yn bennaf Leigh Halfpenny oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Gleision.

Rhoddodd Patchell y Gleision ar y blaen gyda chic gosb gynnar cyn i Halfpenny ymestyn y fantais i naw pwynt gyda dwy arall.

Methodd Jason Tovey ddwy yn y pen arall ond roedd y Dreigiau yn ôl yn y gêm ar yr egwyl diolch i gais cyntaf y gêm wedi hanner awr. Cais da oedd hwnnw hefyd wrth i fylchiad gwreiddiol Dan Evans greu cyfle hawdd i Will Harries groesi.

Trosodd Tovey’r cais cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi’r ymwelwyr bwynt ar y blaen ar yr egwyl.

Roedd y fantais honno’n bedwar pwynt wedi dau funud o’r ail hanner yn dilyn cic arall o droed Tovey ond y Gleision a orffennodd y gêm gryfaf.

Llwyddodd Halfpenny gyda thair cic gosb arall gan orffen y gêm gyda chyfanswm personol o bymtheg pwynt a chyfrannodd yr eilydd faswr, Davies, gôl adlam hefyd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn nawfed yn nhabl y RaboDirect Pro12 ond mae’r bwlch rhyngddynt a’r Dreigiau sydd yn seithfed bellach i lawr i ddau bwynt.

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 9’, Leigh Halfpenny 22’, 28’, 55’, 63’, 80’

Gôl Adlam: Gareth Davies 71’

.

Dreigiau

Cais: Will Harries 29’

Trosiad: Jason Tovey 30’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 34’, 42’