Abertawe 2–3 Man City

Doedd dwy gôl dda gan Wilfred Bony ddim yn ddigon i Abertawe ar y Liberty brynhawn Mercher wrth i Man City ennill y gêm Uwch Gynghrair.

Unionodd Bony toc cyn yr egwyl wedi i Fernandinho roi’r ymwelwyr ar y blaen, a rhy ychydig rhy hwyr oedd ail gôl y blaenwr yn hwyr yn y gêm wedi i Yaya Touré ac Aleksandar Kolarov sgorio dwy i Man City yn gynharach yn yr hanner.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi llai na chwarter awr – methodd Abertawe a chlirio’r bêl yn dilyn cic gornel a daeth Fernandinho o hyd i’r gornel isaf gydag ergyd gywir.

Daeth Abertawe yn ôl i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn llawn haeddu unioni’r sgôr ym munud olaf yr hanner gyda pheniad gwych Bony o groesiad Jonathan De Guzman, er bod amheuaeth o gamsefyll ynddi.

Dechreuodd Man City reoli eto ar ddechrau’r ail hanner ac roeddynt ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r ail gyfnod.

Sgoriodd Touré toc cyn yr awr pan wyrodd ei ergyd i gefn y rhwyd wedi iddo guro’i ddyn ar ochr y cwrt cosbi. Yna, ychwanegodd Kolarov y drydedd yn fuan wedyn yn dilyn rhediad da ar y chwith ar ergyd dda o bellter i gefn y rhwyd.

Llwyddodd Bony i sgorio gôl hyd yn oed gwell yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm gydag ergyd arall o bellter ond doedd honno ddim yn ddigon wrth i Man City gadw eu gafael ar y pwyntiau.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Elyrch yn yr unfed safle ar ddeg am y tro er y gall sawl tîm godi drostynt yn hwyrach brynhawn Mercher.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Rangel, Davies, Cañas, Chico, Williams, Hernández (Lamah 10′), De Guzmán, Bony, Shelvey (Pozuelo 81′), Routledge

Gôl: Bony 45’, 90’

Cardiau Melyn: Cañas 37’, Shelvey 48’

.

Man City

Tîm: Hart, Zabaleta, Kolarov, Yaya Touré, Kompany, Nastasic, Jesús Navas (Rodwell 90′), Fernandinho, Negredo (Javi García 60′), Dzeko, Nasri (Milner 70′)

Goliau: Fernandinho 14’, Yaya Touré 58’, Kolarov 66’

Cardiau Melyn: Nasri 26’, Dzeko 37’, Kompany 54’, Zabaleta 86’, Milner 90’

.

Torf: 20,498