George North
Doedd yr un fuddugoliaeth i’w gael i’r Cymry yn Ffrainc y penwythnos yma, gyda thriawd Racing Metro yn gwneud y gorau o’u hamser gyda gêm gyfartal i ffwrdd yn Brive.
Ond nid clasur o gêm oedd hi o bell ffordd i Jamie Roberts, Dan Lydiate a’r eilydd Mike Phillips, gyda thair cic gosb yr un yn unig ar y sgorfwrdd am ganlyniad terfynol o 9-9.
Ond o leiaf fe gawson nhw benwythnos gwell na James Hook ac Aled Brew. Cafodd Perpignan grasfa i ffwrdd yn Castres o 37-13, gyda dwy gic gosb Hook yn gwneud fawr o ddim i effeithio ar y bwlch rhwng y ddau dîm. Mae’r canlyniad yn cadw Castres yn ail yn y Top 14, gyda Perpignan yn disgyn i 11eg.
A pharhau ar waelod y tabl mae Brew a Biarritz wrth iddyn nhw golli eto, y tro yma o 35-6 yn erbyn Clermont sydd ar y brig – maen nhw nawr naw pwynt y tu ôl i’r tîm agosaf, Bayonne.
Roedd digon o Gymry i’w canfod yn Sale nos Wener, wrth i’r tîm cartref sgorio dwy gais i drechu Gwyddelod Llundain 15-3. Dechreuodd Dwayne Peel, Marc Jones a Jonathan Mills i’r enillwyr, gydag Eifion Lewis-Roberts yn dod oddi ar y fainc, tra bod Ian Gough, Darren Allinson ac Andy Fenby’n ymdrechu’n ofer i achub y canlyniad.
Gwasgu buddugoliaeth i ffwrdd yn Wasps wnaeth George North a Northampton, o 15-17, er na lwyddodd y cawr o Gymro i gyrraedd y sgorfwrdd – ac roedd hi’n newyddion gwell i’w dîm hefyd, ar ôl iddyn nhw gael dirwy o £60,000 gan y gynghrair am adael i North chwarae dros Gymru yn erbyn Awstralia yn yr Hydref.
Dim ond Jonathan Thomas ddechreuodd wrth i Gaerwrangon golli 12-6 i Gaerloyw mewn gornest gicio arall – Martyn Thomas oedd yr unig Gymro i ymddangos i’r gwrthwynebwyr, oddi ar y fainc.
Buddugoliaeth brofodd Paul James a Martin Roberts i Gaerfaddon hefyd, James yn dechrau a Roberts yn dod ymlaen fel eilydd, wrth iddyn nhw drechu Harlequins 14-3.
Ennill y gwnaeth Tom James gyda Chaerwysg hefyd wrth iddyn nhw drechu Newcastle yn gyfforddus o 16-3, gyda Warren Fury ar fainc y gwrthwynebwyr yn medru gwneud dim.
Seren yr wythnos: George North – neb yn sefyll allan, ond North a’i dîm yn aros o fewn cyrraedd i frig y gynghrair gyda’r canlyniad.
Siom yr wythnos: Jonathan Thomas – Gyda Chaerwrangon yn colli’u degfed gêm o’r bron yn y gynghrair, a fyddai’n well ar y capten ddychwelyd i Gymru tybed?