Gleision Caerdydd 19–22 Gweilch
Y Gweilch aeth â hi mewn gêm agos yn erbyn y Gleision yn y RaboDirect Pro12 ar Barc yr Arfau nos Wener.
Roedd torf ac awyrgylch go dda yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm rhwng y ddau ranbarth o Gymru, ac er nad oedd hi mo’r gêm orau erioed roedd hi’n ddigon tanllyd ar adegau ar noson wyntog yn y brifddinas.
Hanner Cyntaf
Roddodd Leigh Halfpenny’r Gleision ar y blaen gyda chic gosb gynnar cyn i Dan Biggar unioni pethau bron yn syth gyda gôl adlam daclus er gwaethaf pas wael iddo yn y lle cyntaf.
Chwaraeodd y Gleision ddigon o’r gêm yn hanner y Gweilch wedi hynny ond yr ymwelwyr a oedd yn cymryd eu cyfleoedd orau ac aethant chwe phwynt ar y blaen diolch i ddwy gic gosb o droed ddibynadwy Biggar.
Doedd Halfpenny ar y llaw arall ddim yn cael cystal hwyr ar feistroli’r gwynt a methodd ddwy gic yn anodweddiadol braidd hanner ffordd trwy’r hanner.
Gwnaeth yn iawn am hynny ychydig funudau’n ddiweddarach gyda rhediad gwych i greu cais agoriadol y gêm. Enillodd y cefnwr dir da gyda rhediad cryf cyn i’r bachwr, Kristian Dacey, orffen y symudiad. Trosodd Halfpenny’r ymdrech hefyd i roi’r tîm cartref bwynt ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl.
Ond y Gweilch a orffennodd yr hanner gryfaf ac roeddynt ar y blaen ar hanner amser diolch i ddwy gic gosb arall gan Biggar, 10-15 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Llwyddodd Halfpenny i ail ddarganfod ei esgidiau cicio i gau’r bwlch gyda phwyntiau cyntaf yr ail hanner.
Ond ymatebodd y Gweilch gyda chais i roi dwy sgôr rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf. Sicrhaodd y Gweilch bêl lân mewn lein bump ymosodol a chreodd Justin Tipuric fwlch iddo ef ei hun gyda ffug bas ddeheuig wrth fôn y sgarmes symudol cyn ymestyn at y llinell gais. Llwyddodd Biggar gyda throsiad anodd o’r ystlys, 13-22 gyda hanner awr i fynd.
Tri phwynt oedd ynddi ar yr awr serch hynny yn dilyn dwy gic gosb arall gan Halfpenny. Cafodd y ddau dîm hanner cyfleoedd yn y chwarter olaf hefyd ond daliodd y ddau amddiffyn yn ddewr wrth i’r Gweilch ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth gan orfodi’r Gleision i fodloni ar y pwynt bonws.
Nid yw’r pwyntiau hynny yn newid llawer yn nhabl y Pro12, gyda’r Gweilch yn aros yn bedwerydd a’r Gleision yn nawfed.
.
Gleision Caerdydd
Cais: Kristian Dacey 27’
Trosiad: Leigh Halfpenny 29’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 3’, 44’, 56’, 60’
.
Gweilch
Cais: Justin Tipuric 48’
Trosiad: Dan Biggar 50’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 11’, 22’, 38’, 40’
Gôl Adlam: Dan Biggar 5’
Cerdyn Melyn: Marc Thomas 58’