Mae Undeb Rygbi Cymru’n ystyried cynnig cytundebau canolog i chwech o chwaraewyr rhyngwladol Cymru i geisio sicrhau eu bod nhw’n aros yng Nghymru.
Os nad yw’r rhanbarthau yn llwyddo i ddod i gytundeb gyda Leigh Halfpenny, Sam Warburton, Alun Wyn Jones, Adam Jones, Rhys Priestland a Scott Williams, mae’r Undeb yn ystyried camu i mewn.
Byddai’r cytundeb canolog yn golygu mai’r Undeb ac nid y rhanbarthau fyddai’n talu cyflogau’r chwaraewyr, ac yn golygu mai nhw wedyn fyddai’n penderfynu ble, phryd a hyd yn oed ym mha safle byddai’r chwaraewr yn chwarae.
Mae gan wledydd gan gynnwys Seland Newydd, Iwerddon, Awstralia, De Affrica a’r Alban y mathau yma o gytundebau.
Daw’r opsiwn yn sgil ansicrwydd parhaol ynglŷn â dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru, gyda’r rhanbarthau ddim yn siŵr pa gystadlaethau y byddwn nhw’n chwarae yn y tymor nesaf, a hynny’n arwain at ddiffyg sicrwydd o ran yr arian ar gael i ranbarthau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae wedi golygu nifer o’r prif chwaraewyr yn penderfynu gadael am glybiau yn Lloegr neu Ffrainc, gan gynnwys Richard Hibbard, Jonathan Davies ac Ian Evans.
Mae’r rhanbarthau wedi dweud yn y gorffennol nad ydyn nhw’n hapus gyda’r syniad o gytundebau canolog i’r chwaraewyr.