Joe Ledley
Mae rheolwr Celtic Neil Lennon wedi annog y Cymro Joe Ledley i roi ateb yn fuan ynglŷn â’r cytundeb newydd sydd wedi’i gynnig iddo.
Daw cytundeb presennol y chwaraewr canol cae i ben yn yr haf y flwyddyn nesaf, ac fe fydd yn rhydd i siarad â chlybiau eraill o fis Ionawr ymlaen – gyda’r ymosodwr Georgios Samaras hefyd yn yr un sefyllfa.
Ymunodd Ledley, sy’n 28 oed, â Celtic o Gaerdydd yn 2010 am ddim, wedi i’w gytundeb gyda’r Adar Glas ddod i ben, ac mae Lennon yn poeni y gallai adael Celtic Park yn yr un modd.
Mae Ledley wedi ei gysylltu gyda nifer o glybiau yn yr Uwch Gynghrair, gan gynnwys ei gyn-glwb Caerdydd, ac fe fydd y cyfle i arwyddo chwaraewr rhyngwladol o’i allu ef am y nesaf peth i ddim yn rhan o’r apêl i’r clybiau hynny.
“Rydyn ni’n cynllunio ar gyfer y tymor nesaf,” meddai Lennon. “Ac yn amlwg fe fuasem ni’n hoffi rhyw fath o awgrym ynglŷn â beth y maen [chwaraewyr sy’n tynnu at derfyn eu cytundebau] yn bwriadu gwneud.
“Rydyn ni wedi’i gwneud hi’n glir ein bod ni’n fodlon siarad gyda nhw ac rydyn ni wedi trafod y sefyllfa gyda Joe yn barod, ond heb glywed yn ôl.
“Mae’r cytundebau yn dod i ben yn yr haf ac maen nhw’n ddau chwaraewr fydden ni ddim eisiau eu colli, ond allwn ni ddim eu gorfodi i aros.”