Sam Warburton
Mae blaenasgellwr Cymru, Sam Warburton, yn credu bod y tîm rhyngwladol yn gwella er iddyn nhw golli’r gêm agoriadol yn erbyn Lloegr.

Fe sgoriodd chwaraewr y Gleision ei gais gyntaf dros Gymru yn ystod y fuddugoliaeth 24-16 yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth Cymru yn olynol, ar ôl iddynt faeddu’r Alban yn Murrayfield pythefnos ynghynt.

“Roedd popeth yn edrych yn dywyll ar ôl gêm Lloegr, ond mae ennill dwy gêm oddi cartref wedi rhoi hwb i ni,” meddai Warburton.

“Fe fyddwn ni’n mynd mewn i’r gêm yn erbyn Iwerddon gyda llawer o hyder. Mae’n gêm gartref sydd rhaid i ni ei hennill.”

Ond fe fydd Cymru’n gwybod bod angen iddynt berfformio’n llawer gwell os ydynt am faeddu’r Gwyddelod yn Stadiwm y Mileniwm.

Bu bron iddyn nhw roi’r gêm ar blât i’r Eidal yn yr ail hanner yn Rhufain, ond methodd y crysau glas bedair cic gosb.

“Fe fydden ni wedi ennill yn hawdd pe baen ni wedi parhau i chwarae yn yr ail hanner fel yn yr hanner cyntaf,” nododd Warburton.

“Roedd y chwarae yn yr ail hanner yn ddigyswllt. Fe ddylen ni fod wedi chwarae rhagor o rygbi agored.

“Doedden ni ddim wedi manteisio ar y ffaith fod ein ffitrwydd ni’n well a chadw’r bêl ar y cae am gyfnodau hirach.”