Gyda gemau’r Hydref ar fin dechrau, mae Pod Rygbi newydd Golwg360 yn trafod rhai o’r prif bynciau llosg yn ymwneud a thîm rygbi Cymru’r wythnos hon.

Yr wythnos yma ein gohebydd chwaraeon, Rhys Jones, a dau o flogwyr rygbi Golwg360, Owain Gwynedd ac Owain Gruffudd, sydd yn trafod dewis Gatland a gobeithion Cymru, wrth iddyn nhw baratoi i herio De Affrig.

Rhai o’r pynciau trafod sydd o dan sylw yw dewis Eli Walker, sydd bellach wedi’i anafu, Rhys Priestland yn cael lle’r maswr o flaen Dan Biggar, problem James Hook a chryfderau De Affrig.

Mae’r tri hefyd yn cynnig eu barn ar bwy fydd yn ennill yr ornest fawr brynhawn Sadwrn.