Matthew Rees
Mae capten Cymru, Matthew Rees, yn credu y bydd y gêm yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yfory yn “brawf o gymeriad” rhai o’r chwaraewyr.

Mae nifer o chwaraewyr Cymru heb chwarae yn y Stadio Flamino o’r blaen.

Collodd y tîm rhyngwladol yn erbyn yr Eidalwyr yno cyn y ddau Gwpan y Byd diweddaraf, yn 2003 a 2007.

“Mae’r dorf yn wych ac r’yn ni’n ymwybodol o ba mor eiddgar fydd yr Eidalwyr am fuddugoliaeth,” meddai Matthew Rees.

“Fe fydd yn brofiad da i ni ac yn brawf o gymeriad rhai o’r chwaraewyr sydd heb chwarae rygbi rhyngwladol yn Rhufain o’r blaen.”

Mae’r bachwr yn credu bod y gweir 59-13 gafodd yr Eidalwyr yn erbyn Lloegr yn Twickenham bythefnos ‘nôl yn mynd i wneud eu tasg yn anoddach.

“Mae’n mynd i fod yn her enfawr i ni. Maen nhw newydd golli’n drwm yn erbyn Lloegr ac fe fyddan nhw’n benderfynol o daro’n ôl,” nododd y bachwr.

“Mae unrhyw dîm sy’n colli o 50 pwynt yn mynd i wybod bod eu gêm gartref nesaf yn allweddol.

“Ond r’yn ni wedi ennill yno yn y gorffennol ac r’yn ni’n gwybod beth sy’n wynebu ni.  Mae’n fater o weithio’n galed ymysg y blaenwyr fel bod y cefnwyr yn gallu sgorio ceisiau.”