Gleision Caerdydd 17–13 Treviso
Cafodd y Gleision fuddugoliaeth gartref ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn wrth i Treviso ymweld â Chaerdydd yn y RaboDirect Pro12.
Yr Eidalwyr oedd ar y blaen ar hanner amser ond roedd cais Sam Hobbs yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Dechreuodd y Gleision y gêm yn dda gan sefydlu deg pwynt o fantais wedi’r chwarter cyntaf. Llwyddodd Gareth Davies gyda chic gosb cyn trosi cais y bachwr, Kristian Dacey.
Ond yn ôl y daeth Treviso cyn yr egwyl gan gau’r bwlch i bedwar pwynt i ddechrau gyda dwy gic gosb o droed Mat Berquist.
Ac yna aeth yr Eidalwyr ar y blaen diolch i gais y canolwr, Michele Campagnaro, a throsiad Berqist. 10-13 ar hanner amser.
Ychydig iawn o bwyntiau a gafwyd wedi’r egwyl ond yn ffodus i’r cefnogwyr cartref, y Gleision a sgoriodd unig gais yr ail gyfnod. Y Prop, Sam Hobbs, oedd y sgoriwr, ac ychwanegodd Davies y trosiad i roi pedwar pwynt o fantais i’r Cymry wedi chwarter awr o’r ail hanner.
Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Gleision ennill gartref yn y gynghrair am y trydydd tro mewn pedair gêm.
Mae’r canlyniad yn eu codi i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Gleision
Ceisiau: Kristian Dacey 17’, Sam Hobbs 54’
Trosiadau: Gareth Davies 18’, 54’
Cic Gosb: Gareth Davies 14’
.
Treviso
Ceisiau: Michele Campagnaro 32’
Trosiadau: Mat Berquist 32’
Ciciau Cosb: Mat Berquist 21’, 28’