Sebastien Vettel - a fydd o'n mynd am record Schumacher?
Yn Abu Dhabi mae Grand Prix y penwythnos yma. Mae’n ddiddorol oherwydd mai dyma’r unig ras ar y calendr sydd yn cychwyn yng ngolau dydd, ond yn gorffen ar ôl iddi nosi.
O ganlyniad, Grand Prix Abu Dhabi yw’r digwyddiad chwaraeon gyda’r system goleuo parahol fwyaf.
Mae hyn yn drawiadol, ond yn mynd braidd yn groes i’r cyfeiriad gwyrdd mae F1 yn ei gymryd gyda’r rheolau injan ac egni adnewyddol newydd ar gyfer y tymor nesa’.
Twnnel wrth y trac
Fel nifer o’r cyrsiau mwy diweddar (e.e Singapor a Valencia), cwrs stryd yw Abu Dhabi.
Peth arall sydd yn diddorol amdano yw sut mae’r lon at y pit yn is na’r trac ei hun, a bod y gyrwyr yn codi ac yn teithio drwy dwnnel i ymuno a’r trac.
Cyffro llynedd
Roedd ras blwyddyn diwethaf yn un cyffrous iawn. Fel oedd pobl yn dechrau meddwl y byddai Vettel yn cael hi’n hawdd rwan i dynnu’n glir yn y pencampwriaeth, cafodd gosb wedi’r rhagbrawf a gorfod cychwyn o’r lon pit gan nad oedd ganddo ddigon o danwydd yn weddill ar ddiwedd y sesiwn i ddarparu sampl.
Fe rasiodd yn wych drwy’r pac i orffen yn 3ydd. Doedd ei gystadleuydd Fernando Alonso dim ond un safle o’i flaen erbyn y fflag, fel nad oedd Alonso yn medru cau’r bwlch ar y brig o lawer.
Kimi Raikkonen hawliodd y fuddogoliaeth – ei fuddugoliaeth gynta’ ers dychwelyd i Fformiwla 1 ar ôl saib o 2 flynedd.
Rhagolygon
Wedi cipio’r bencampwriaeth y penwythnos diwethaf, ar bapur, does gan Sebastian Vettel ddim llawer i fynd amadano am weddill y tymor.
Ond mae o yn un sydd yn cymryd llawer o sylw o records Fformiwla 1, ac mae hi’n dal yn bosib iddo fynd yn gydradd gyda record Michael Schumacher o 14 buddugoliaeth mewn tymor.
Er bod brig y bencampwriaeth wedi ei setlo, mae yna gwpl o frwydrau diddorol i gadw llygad arnynt penwythnos yma, gyda Mark Webber yn 5ed ar 148 pwynt a Nico Rosberg 4 pwynt y tu ol iddo.
Ychydig yn is na nhw, mae Felipe Massa a Romain Grosjean ar 102 pwynt yr un. Gyda Grosjean mor gryf ar hyn o’r bryd a Massa yn ceisio dal llygad tîm newydd ar gyfer 2014, gall hynny fod yn gyffrous i’w ddilyn.