Yn ein heitem wythnosol newydd, bydd Golwg360 yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen at eu gêm ar y penwythnos.Yr wythnos hon tîm Rygbi Gogledd Cymru (RGC) 1404 sydd o dan sylw wrth iddyn nhw baratoi i herio Beddau.
Proffil y Clwb
Enw: Rygbi Gogledd Cymru 1404
Llysenw: RGC
Ffurfiwyd: 2007
Cae: Parc Eirias
Lliwiau: Du a Gwyn
Prif Hyfforddwr: Chris Horsman
Rheolwr y Tîm: Will Morcombe
Capten: Kelvin Davies
Wythnos diwethaf roedd llygad Golwg360 lawr yng Ngheredigion wrth i’n ‘Tîm yr Wythnos’, pêl-droedwyr CPD Ffostrasol, herio Ail Dîm Bow Street yn y gwpan.
Ond yr wythnos yma yn ôl i’r gogledd yr awn ni, ac yn ôl i’r maes rygbi hefyd, wrth i Rygbi Gogledd Cymru, neu RGC 1404 fel y mae nhw’n cael eu hadnabod bellach, hawlio’r sylw.
Sefydlwyd RGC 1404 yn gymharol ddiweddar, yn 2007, gan Gyngor Rygbi Gogledd Cymru gyda’r bwriad o ddatblygu tîm cystadleuol yng ngogledd y wlad.
Tîm datblygu yw RGC, oedd o dan yr enw Gogledd Cymru tan 2010, ac ers eu tymor cyntaf yn 2010/11 yng nghynghrair Cymru maen nhw wedi mynd o nerth i nerth.
Llwyddodd RGC i gyrraedd ffeinal Cwpan Siroedd Cymru yn 2011, ac fe enillon nhw Adran Un (Dwyrain) Cynghrair SWALEC y tymor diwethaf, gan ennill dyrchafiad i Bencampwriaeth SWALEC y tymor hwn.
Ac maen nhw’n ymdopi’n dda ar y lefel uwch yn barod, gan eistedd yn bedwerydd yn y dabl ar ôl pum buddugoliaeth o’u wyth gêm hyd yn hyn.
Maen nhw ar rediad da o ganlyniadau, gyda thair buddugoliaeth yn olynol a phedair yn eu pump gêm diwethaf – ac yn ddiddorol, wedi ennill pob un o’u pedair gêm oddi cartref hyd yn hyn.
Dyma fideo o’u hymarfer nhw yn ystod yr wythnos, gan gynnwys rhai o’r chwaraewyr yn cyflwyno’u hunain:
Her y penwythnos
A’r penwythnos yma fe fydden nhw’n herio Beddau gartref ym Mae Colwyn, gan obeithio codi’n uwch yn y gynghrair.
Mae Beddau’n nawfed yn y dabl, ac wedi colli tair o’u pedair gêm oddi cartref yn y gynghrair hyn yn hyn y tymor yma.
A chydag RGC 1404 yn trechu Tata Steel, sydd yn seithfed yn y dabl ar hyn o bryd, o 22-6 yr wythnos diwethaf, y gogleddwyr fydd y ffefrynau am y penwythnos yma.
Carfan RGC 1404
Blaenwyr: James Jones, Tom Hughes, Joe Simpson, Callum Mitchell, Andy Baston, Liam Leung, Luke Williams, Maredydd Francis, Bryn Williams, Huw Worthington, Mei Parry, Tom Parry, Andrew Williams, Aaron Gwyn
Olwyr: Alex Schwarz, Josh Leach, Afon Bagshaw, Rhodri Carlton-Jones, Lewis Barker, Harri Evans, Mike Jones, Cameron Hughes, Richard Hopkins, Iolo Evans, Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin