Caeredin 31–24 Dreigiau

Colli fu hanes y Dreigiau yn erbyn Caeredin ym Murrayfield nos Wener yng ngêm olaf tymor y RaboDirect Pro12.

Er i geisiau hwyr Dan Lydiate a Tom Prydie roi llygedyn o obaith i’r Cymry roedd Prifddinaswyr yr Alban wedi gwneud digon i sicrhau’r fuddugoliaeth yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd y Dreigiau’n dda gyda chais Steffan Jones a throsiad Tom Prydie yn y munudau agoriadol, ond unionodd Caeredin y sgôr wedi chwarter awr diolch i’r ddau Greig, Tonks â’r cais a Laidlaw â’r trosiad.

Ychwanegodd Laidlaw yr ail gais ei hunan yn fuan wedyn cyn i’r wythwr, Nateni Talei, ymuno yn yr hwyl chwarter awr cyn yr egwyl.

Cafwyd cyfres o gardiau melyn wedi hynny. Anfonwyd dau glo i’r gell gosb i ddechrau, Sean Cox i Gaeredin ac Andrew Coombs i’r Dreigiau, cyn i ganolwr yr ymwelwyr, Ross Wardle, ymuno â’r ddau yn fuan wedyn.

Ond er gwaethaf y lle ychwanegol ar y cae ni chafwyd mwy o geisiau cyn yr egwyl, dim ond tair cic gosb, dwy i Laidlaw ac un i Prydie, 25-10 y sgôr ar hanner amser.

Ychwanegodd Laidlaw ddwy gic gosb arall yn gynnar yn yr ail hanner i ymestyn y fantais i 21 pwynt ond tarodd y Dreigiau yn ôl gyda dau gais toc wedi’r awr. Tiriodd y llew, Lydiate, i ddechrau ac yna Prydie, a throsodd Prydie y ddau hefyd i gau’r bwlch i saith.

Ond ofer fu ymdrechion y Cymry i gael yr un sgôr ychwanegol yn y chwarter awr olaf wrth i Gaeredin ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r Dreigiau yn gorffen y tymor yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Pro12, un lle o dan Gaeredin.

.

Caeredin

Ceisiau: Greig Tonks 14’, Greig Laidlaw 19’, Nateni Talei 25’

Trosiadau: Greig Laidlaw 15’, 25’

Ciciau Cosb: Greig Laidlaw 35’, 40’, 51’, 54’

Cerdyn Melyn: Sean Cox 30’

.

Dreigiau

Ceisiau: Steffan Jones 4’, Dan Lydiate 63’, Tom Prydie 65’

Trosiadau: Tom Prydie 5’, 63’, 65’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 39’

Cardiau Melyn: Andrew Coombs 30’, Ross Wardle 34’