Ulster 37–13 Gleision

Gorffennodd tymor siomedig y Gleision gyda cholled arall yn y RaboDirect Pro12 nos Wener, ond doedd dim llawer o gywilydd mewn colli yn Ravenhill yn erbyn Ulster – y tîm sydd yn gorffen y tymor ar frig tabl.

Roedd y Cymry yn gystadleuol am ddeugain munud ond dangosodd Ulster yn yr ail gyfnod pam mai nhw yw’r tîm gorau yn yn gynghrair y tymor hwn, gan orffen y gêm gyda phedwar cais.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd pethau’n dda iawn i’r ymwelwyr o Gymru wrth i Dafydd Hewitt groesi yn y munudau cyntaf yn dilyn bylchiad da’r mewnwr, Lewis Jones.

Ond pum munud yn unig a barodd y fantais cyn i gamgymeriad Harry Robinson gyflwyno trosgais ar blât i faswr Ulster, Ruan Pienaar.

Cyfnewidiodd Rhys Patchell a Pienaar gic gosb yr un wedi hynny i’w gwneud hi’n ddeg yr un ond y Gleision oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl adlam dda gan y maswr ifanc, Patchell.

Ail Hanner

Roedd Ulster yn well wedi’r egwyl a sgoriodd Andrew Trimble ddau gais yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner wrth i’r Gwyddelod sefydlu mantais gyfforddus. Tiriodd y cyntaf yn dilyn pas hir dda ac adlamodd y bêl yn garedig iddo o gic Pienaar ar gyfer yr ail.

Llwyddodd Pienaar gyda’r ddau drosiad ac ychwanegodd ddwy gic gosb hefyd i roi ei dîm 17 pwynt ar y blaen.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gleision yn y munudau olaf wrth i sgoriwr eu cais, Hewitt, gael ei anfon i’r gell gosb, ac wrth i’r blaenasgellwr, Robbie Diack, gipio pwynt bonws i Ulster gyda phedwerydd cais.

Diweddglo siomedig i dymor siomedig i’r Gleision felly. Maent yn gorffen yn nawfed yn nhabl y Pro12.

.

Ulster

Ceisiau: Ruan Pienaar 9’, Andrew Trimble 43’, 54’, Robbie Diack 78’

Trosiadau: Ruan Pienaar 10’, 44’, 55’, 79’

Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 26’, 46’, 50’

.

Gleision

Cais: Dafydd Hewitt 4’

Trosiad: Rhys Patchell 5’

Cic Gosb: Rhys Patchell 21’

Gôl Adlam: Rhys Patchell 28’

Cerdyn Melyn: Dafydd Hewitt 77’