Sgarlets 14 – 13 Caeredin

Mae’r Sgarlets wedi codi nôl i bedwar uchaf Cynghrair RaboPro 12, wedi buddugoliaeth yn erbyn Caeredin heno.

Y Cymry oedd y tîm gorau trwy gydol y gêm ar Barc y Sgarlets, ond fe gawsant drafferth trosi hynny i bwyntiau ac roedd yn gêm dynn hyd yr eiliadau olaf.

Roedd y tîm cartref yn arwain 8-0 wedi chwarter awr diolch i gic gosb gan Aled Thomas a chais hyfryd i Andrew Fendy.

Ond erbyn yr hanner roedd yr ymwelwyr nôl ynddi a chyda dau bwynt o fantais diolch i gic gost Harry Leonard a chais Dougie Fife, a droswyd gan Leonard.

Y Sgarlets oedd yn pwyso fwyaf yn yr ail hanner ond roedden nhw’n dal i ildio ciciau cosb blêr ac ychwanegodd Leonard dri phwynt o un ohonynt yn fuan yn yr hanner.

Ciciodd Aled Thomas gic gosb i’r Sgarlets i ddod â’r sgôr o fewn dau bwynt cyn cael ei ddisodli gan Owen Williams.

Cynyddodd pwysau y Sgarlets, ond methodd y maswr newydd, Williams, a thri chynnig at y pyst cyn llwydd i roi’r Sgarlets ar y blaen gyda chwarter awr yn weddill.

Er gwaethaf ambell fraw, llwyddodd tîm Simon Easterby i gynnal eu blaenoriaeth nes y chwiban olaf gan olygu eu bod yn neidio uwchben y Gweilch yn y gynghrair.