Port Talbot 1–3 Y Seintiau Newydd
Cododd y Seintiau Newydd i frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth dros Bort Talbot o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Alex Darlington yr ymwelwyr ar y blaen o’r smotyn yn yr hanner cyntaf cyn i gôl i’w rwyd ei hun gan James Bloom a pheniad Ryan Fraughan selio’r fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod.
Hanner Cyntaf
Er mai’r Seintiau oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, parhau’n ddi sgôr wnaeth hi am hanner awr a mwy. Cafodd Chris Seargeant a Steve Evans gyfleoedd i roi’r ymwelwyr ar y blaen ond arbedodd Craig Richards ergyd Seargeant a chlirwyd peniad Evans oddi ar y llinell gan Sacha Walters.
Tarodd Michael Wilde y trawst hefyd cyn i Darlington roi’r Seintiau ar y blaen o’r smotyn yn y diwedd. Cafodd Wilde ei lorio yn y cwrt cosbi gan Bloom a gwnaeth Darlington y gweddill.
Ail Hanner
Cafodd Aeron Edwards gyfle gwych i ddyblu’r fantais ym munud cyntaf yr ail hanner ond peniodd yn syth at Richards.
Ond fu dim rhaid i’r Seintiau aros yn hir am gôl wrth i Bloom wyro’r bêl i’w rwyd ei hun yn dilyn ymdrech warthus gan Richards i ddyrnu cic gornel.
Cafodd Lewis Harling gyfle da i Bort Talbot ac felly hefyd Wilde i’r Seintiau cyn i’r eilydd, Fraughan, sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr. Dim ond am bedwar munud y bu’r asgellwr ar y cae cyn iddo benio croesiad Chris Jones yn benderfynol heibio i Richards.
Fe dynnodd Brooks un yn ôl o’r smotyn i Bort Talbot a bu bron i Daniel Thomas ychwanegu un arall gydag ergyd wych o bellter ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r tîm cartref.
Ymateb
Seren y gêm, amddiffynnwr y Seintiau, Steve Evans:
“Fe wnaethon nhw ein gorfodi ni i weithio’n galed. Yn yr hanner cyntaf fe wnaethom ni basio’r bêl yn dda a chreu cyfleoedd. Wnaethom ni ddim cymryd llawer ohonynt ond fe lwyddon ni i gael y gôl yn y diwedd. Yna, yn yr ail hanner, mynd dair ar y blaen a thynnu’r droed oddi ar y sbardun braidd.”
Rheolwr newydd Port Talbot, Scott Young:
“Roedd y tair gôl yn rhai gwael i’w hildio. Roedd y gic o’r smotyn yn wael ac yna fe ddaethon ni allan yn yr ail hanner ac ildio gôl flêr yn syth.”
“Ar ddiwedd y dydd doedden ni ddim digon da. Mae yna lawer o waith caled o’n blaenau. Rydyn ni’n mynd i newid steil y chwarae a gweithio’n galetach.
Mae’r canlyniad yn codi’r Seintiau i frig y tabl ond mae Port Talbot yn aros yn chweched hefyd.
.
Port Talbot
Tîm: Richards, Sheehan, Bloom, John, Harling, Thomas, De-Vulgt, Walters (Wright 72’), Crowell, White (Blain 80’), Brooks
Gôl: Brooks [c.o.s.] 89’
Cerdyn Melyn: Bloom 38’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Baker, Evans, Finley (Fraughan 65’), Edwards, Seargeant (Ruscoe 84’), Darlington (Williams 89’), Wilde, Jones
Goliau: Darlington [c.o.s.] 39’, Bloom [g.e.h.] 48’, Fraughan 68’
Cardiau Melyn: Finley 57’, Evans 79’, Marriott 89’
.
Torf: 158