Wrecsam 3–2 Solihull Moors

Mae Wrecsam yn nhrydedd rownd Tlws yr FA ar ôl curo Solihull Moors ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Er eu bod yn chwarae un gynghrair o dan Wrecsam, fe roddodd y tîm o ochrau Birmingham gêm dda i’r Dreigiau ac roedd angen cic o’r smotyn hwyr gan Dean Keates i osgoi embaras i’r tîm o Gymru.

Yr ymwelwyr a aeth ar y blaen a hynny bum munud cyn yr egwyl pan rwydodd Junior English gydag ergyd dda o bellter.

Ond roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i’r hen ben, Brett Ormerod – y blaenwr yn rhwydo yn dilyn pas Jay Harris.

Roedd Solihull ac English wrthi eto toc cyn yr awr, yn adfer y fantais gyda gôl o gic gornel.

Ond tarodd Wrecsam yn ôl gyda dwy gôl mewn pedwar munud toc wedi’r awr. Sgoriodd Adrian Ciezlewicz i unioni’r sgôr cyn i Keates ennill y gêm o’r smotyn wedi i Andy Morrell gael ei lorio yn y cwrt cosbi.

Canlyniad da i’r Dreigiau yn y diwedd felly a gobaith o gyrraedd Wembley o hyd.