Y Cymro, Aaron Ramsey yn lliwiau Tîm GB
Mae ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud ei fod yn annhebygol bydd tîm pêl-droed dynion Prydeinig yn cystadlu eto yn y dyfodol.

Roedd cymdeithasau pêl-droed Cymru ac Yr Alban wedi gwrthwynebu’r syniad o ffurfio ‘Tîm GB’ yn y lle cyntaf ond dewisodd 5 o chwaraewyr Cymreig i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Gwnaeth Alex Horne y sylwadau mewn cyfweliad ar BBC Radio 5 Live bore ma.

Er hynny, fe awgrymodd bod posibilrwydd y gwelwn ni ‘Dîm GB’ marched yn cystadlu unwaith eto yn y Gemau Olympaidd.

“Dwi ddim yn credu y byddwn ni’n ei wneud o eto efo’r tîm dynion” meddai Horne.

“O ran y merched, byddwn ni’n parhau i drafod y peth.”

“Dydan ni ddim yn diystyru’r peth yn llwyr, bu i ni ddelio â llawer o wleidyddiaeth er mwyn cyrraedd yna.”

Cyrhaeddodd y ddau dîm rowndiau go gyn derfynol Llundain 2012.

Roedd cymdeithasau pêl-droed Cymru a’r Alban yn ofni y byddai ffurfio tîm Prydeinig ar gyfer y Gemau Olympaidd yn peryglu eu hannibyniaeth.