Gary Speed
Mae tad Gary Speed wedi apelio ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i ddangos eu cefnogaeth i’r rheolwr newydd, Chris Coleman.
Yn y cinio i goroni chwaraewr y flwyddyn, fe ddywedodd Roger Speed fod angen i bobol grynhoi y tu cefn i’r rheolwr a ddaeth i’r swydd ar ôl marwolaeth ei fab.
Mewn cyfweliad gyda’r BBC, fe ddywedodd na fyddai ef ei hun yn hoffi dilyn Gary Speed yn y swydd gan ei fod yn gwneud gwaith “ffantastig”.
“Peidiwch â rhoi’r sac i Chris,” meddai. “Rhowch eich cefnogaeth iddo.”
Roedd Roger Speed hefyd yn hael iawn ei ganmoliaeth i gefnogwyr Cymru a chyn-glybiau Gary Speed am eu cefnogaeth wedi hunanladdiad y rheolwr cenedlaethol.
Y cefndir
Dyw Cymru ddim wedi ennill ers i Chris Coleman gymryd yr awenau ac maen nhw wedi colli eu dwy gem gynta’ yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd, gan gynnwys chwalfa 6-1 yn erbyn Serbia.
Fe fyddan nhw’n chwarae’r Alban yng Nghaerdydd nos Wener.