Aberystwyth 4 – 2 Lido Afan

Cododd Aberystwyth o waelod yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Lido Afan ar Goedlan y Parc nos Wener.

Peniodd Wyn Thomas y tîm cartref ar y blaen o gic rydd cyn i Jordan Follows ddyblu’r fantais yn dilyn pas dreiddgar Declan Carroll.

Gwnaeth Gavin Cadwallader hi’n dair pan beniodd gic rydd hir Matty Collins i gefn y rhwyd toc cyn yr awr ond roedd Lido’n ôl yn y gêm yn fuan wedyn pan sgoriodd Chris Hartland o ugain llath.

Ond adferodd Glyndwr Hughes fantais Aber dri munud yn ddiweddarach gan olygu mai gôl gysur yn unig oedd ymdrech flêr hwyr Anthony Rawlings i Lido.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Aber i’r unfed safle ar ddeg ar draul Lido sydd yn disgyn i waelod y tabl.

(Torf – 442)

.

Bangor 5 – 0 Bala

Cafodd Bangor fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Bala yn Nantporth nos Wener gan sgorio pedair cyn hanner amser.

Sgoriodd Sion Edwards y gyntaf wedi dim ond tri munud yn dilyn rhediad twyllodrus i lawr y chwith cyn creu’r ail i Chris Jones hanner ffordd trwy’r hanner.

Ychwanegodd Liam Brownhill y drydedd toc wedi hanner awr yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Jones, a sgoriodd Chris Simm y bedwaredd o’r smotyn wedi i Ross Jeffries lorio Les Davies yn y cwrt cosbi.

Dim ond un arall a ychwanegodd y Dinasyddion wedi’r egwyl, peniad gwych Simm o groesiad cywir Jones, ond roedd y tîm cartref eisoes wedi gwneud hen ddigon i ennill y gêm.

Fe wnaeth y fuddugoliaeth godi Bangor i frig y tabl dros nos ond maent yn drydydd o hyd, yn dynn ar sodlau’r Seintiau a Phrestatyn. Mae’r Bala ar y llaw arall yn disgyn i’r nawfed safle.

(Torf – 718)

.

Port Talbot 2 – 1 Caerfyrddin

Sgoriwyd y goliau i gyd yn chwarter olaf y gêm yn Stadiwm Genquip nos Wener wrth i Bort Talbot guro Caerfyrddin mewn gêm agos a thanllyd.

Rhoddodd Leone Jeanne Gaerfyrddin ar y blaen o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi i’r dyfarnwr farnu fod Ryan Green wedi llorio Liam McCreesh yn fwriadol.

Ond tarodd Carl Payne yn ôl gydag ergyd wych i’r gornel uchaf o ugain llath cyn i gôl-geidwad Caerfyrddin, Steve cann, dderbyn cerdyn coch am sathru un o chwaraewyr Port Talbot mewn ffrwgwd flêr.

Ac wrth i Gaerfyrddin orffen y gêm heb golwr cydnabyddedig fe fanteisiodd Port Talbot i gipio’r tri phwynt. Methodd Jonathan Hood a dal ergyd James Bloom ac roedd Lee John wrth law i rwydo ar yr ail gynnig.

Mae Port Talbot yn dychwelyd i hanner uchaf y tabl ac i’r chweched safle diolch i’r fuddugoliaeth tra mae Caerfyrddin yn aros yn ddegfed.

(Torf – 248)

.

Airbus 1 – 1 Llanelli

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Airbus groesawu Llanelli i’r Maes Awyr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Wayne Riley Airbus ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf cyn i’r tîm fethu llu o gyfleoedd i ddyblu’r fantais.

Roedd trafferthion arianol Llanelli yn amlwg o edrych ar eu mainc ac fe chwaraeodd y chwaraewr reolwr 46 mlwydd oed, Andy Legg, yr ugain munud olaf.

Ond o leiaf fe gafodd y Cochion bwynt i godi eu calonnau wrth i Chris Venables unioni’r sgôr chwarter awr o’r diwedd yn dilyn croesiad cywir Antonio Corbisiero.

Mae’r pwynt yn codi Llanelli dros y Bala i’r wythfed safle tra mae Airbus yn aros yn bedwerydd ond yn colli tir ar y tri uchaf.

(Torf – 174)

.

Y Drenewydd 1 – 4 Prestatyn

Mae dechrau gwych Prestatyn i’r tymor yn parhau yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen toc cyn yr egwyl pan rwydodd chwaraewr y mis Uwch Gynghrair Cymru mis Medi, Jason Price, ei seithfed gôl o’r tymor.

Roedd hi’n ddwy yn fuan wedi’r egwyl diolch i Greg Stones cyn i Andy Parkinson selio’r fuddugoliaeth gyda’i seithfed gôl yntau o’r tymor toc wedi’r awr.

Fe rwydodd Zac Evans gôl gysur o’r smotyn i’r Drenewydd wedi hynny ond Prestatyn a gafodd y gair olaf wrth i Parkinson sgorio ei ail o’r gêm a’i wythfed o’r tymor yn y munudau olaf.

Aros yn ail ar wahaniaeth goliau’n unig y mae Prestatyn tra mae’r Drenewydd yn llithro i hanner gwaelod y tabl ac i’r seithfed safle.

(Torf – 251)

.

Gap Cei Connah 1 – 3 Y Seintiau Newydd

Mae’r Seintiau yn aros ar frig Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Gap Cei Connah yng ngêm fyw Sgorio yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

(Torf – 428)