Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Robbie Savage, wedi dweud bod perfformiad tîm Cymru yn erbyn Serbia nos Fawrth yn un cywilyddus.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn gorwedd ar waelod grŵp A ar ôl colli eu gêm gyntaf i Wlad Belg ac yna Serbia yn y gemau rhagbrofol.

Mae Chris Coleman yn dal i edrych am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Cymru ac er bod rhai yn beirniadu Coleman, cred Savage nad y rheolwr sydd ar fai.

‘‘Rwy’n credu ei fod yn ddyn dylanwadol ac yn gymwys i’r swydd,’’ meddai Savage.

‘‘Mae angen amser ar Chris yn gyntaf, pum gêm yn unig mae wedi eu rheoli ac mae’n chwerthinllyd i gwestiynu ei statws fel rheolwr mor gynnar â hyn,’’ ychwanegodd.

Ddoe dywedodd cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wrth Golwg360 fod chwaraewyr Cymru yn chwarae “fel tasai pwysau’r byd ar eu sgwyddau” a chwestiynodd y penderfyniad i roi’r gapteniaeth i Aaron Ramsey.

Yr Alban fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru, yng Nghaerdydd ar Hydref 12.