Joe Allen
Bydd Joe Allen yn cyfarfod â rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, heddiw yn dilyn cais diweddaraf Lerpwl i hudo’r chwaraewr ifanc i Anfield.
Mae Lerpwl wedi gwneud cynnig newydd o £15 miliwn i’r Elyrch am y chwaraewr canol cae o Grymych.
Yn ôl adroddiadau, mae rheolwr Lerpwl a chyn-reolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi sbarduno cymal yng nghytundeb Joe Allen sy’n caniatáu iddo adael am £15 miliwn.
Cafodd cynnig o £12.5m ei wrthod gan Abertawe yn ddiweddar.
Pan adawodd Brendan Rodgers ei swydd fel rheolwr Abertawe, gwnaeth gytundeb â’r clwb yn addo na fyddai’n arwyddo unrhyw chwaraewr oddi yno am o leiaf 12 mis.
Ond gall yr amod gael ei anwybyddu os yw hynny’n buddio’r Elyrch.
Dychwelodd Joe Allen, 22, yn ôl i ymarfer gydag Abertawe ddoe ar ôl cynrychioli Tîm GB yn y Gemau Olympaidd.