Gylfi ar y Liberty
Mae disgwyl i Gylfi Sigurdsson wrthod cynigion gan Abertawe a Lerpwl er mwyn ymuno â Spurs, yn ôl adroddiadau yn y Guardian.

Wedi i Brendan Rodgers symud o Abertawe i Lerpwl ddechrau’r mis, roedd disgwyl i’r chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ ail-ymuno â’i gyn-hyfforddwr yn Anfield.

Ond mae Spurs wedi ennill y frwydr i arwyddo’r chwaraewr yn ôl adroddiadau yn y papur newydd, ac wedi cytuno i roi £8 miliwn amdano i glwb Hoffeneim o’r Almaen.

Mae Spurs yn dal i chwilio am reolwr newydd ar ôl diswyddo Harry Redknapp yn gynharach yn y mis.

Bu Gylfi Sigurdsson ar fenthyg yn Stadiwm Liberty yn ystod ail hanner y tymor diwethaf gan sgorio saith gôl mewn 18 ymddangosiad i’r Elyrch.