Mae chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd, Greg Draper, wedi cael tymor cyntaf gwych yn yr Uwch Gynghrair
Mae’r rhestr fer ar gyfer gwobr Chwaraewr y Tymor Uwch Gynghrair Cymru wedi’i henwi heddiw, gyda thri enw yn yr het.
Yr enwau hynny yw ymosodwr poblogaidd Dinas Bangor, Les Davies; capten Tref Y Bala, Mark Jones; a phrif sgoriwr Y Seintiau Newydd, Greg Draper.
Mae’r chwaraewyr wedi’u henwebu gan reolwyr timau’r Uwch Gynghrair, ac yn ôl y gynghrair hon yw’r bleidlais agosaf ers i’r gwobrau ddechrau.
Gwobrau eraill
Cyhoeddwyd hefyd y rhestr fer ar gyfer Rheolwr y Tymor, sef rheolwr Y Bala, Colin Caton; Andy Legg o Lanelli; a rheolwr y pencampwyr, Y Seintiau Newydd, Carl Darlington.
Tri amddiffynnwr sydd ar y rhestr fer ar gyfer Chwaraewr ifanc y flwyddyn, sydd eto wedi’u dewis gan reolwyr y gynghrair.
Mae Kai Edwards o Gastell Nedd, Chris Marriott o’r Seintiau Newydd a Dan Sheehan o Lido Afan oll wedi cael tymor i’w gofio.
Bydd y noson wobrwyo’n cael ei chynnal yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth ar nos Sadwrn 9 Mehefin.
Bydd ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths yn derbyn ei wobr am fod yn brif sgoriwr y tymor ar y noson, a hynny am y seithfed flwyddyn yn olynol.