Brendan Rodgers
Dyw Lerpwl ddim wedi gwneud cais ffurfiol i siarad gyda rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, meddai’r clwb.

Er hynny, rheolwr yr Elyrch yw ffefryn y bwcis i gymryd y swydd yn Anfield, yn enwedig ar ôl iddo deithio i’r Unol Daleithiau, lle mae perchnogion Lerpwl.

Er ei fod yno i weld Cymru’n chwarae Mecsico, mae sylwebwyr yn amau ei fod hefyd am gynnal trafodaethau gyda chwmni FSG, perchnogion y clwb ar Lannau Mersi.

Ond gwadu’r sïon y mae Abertawe gan ddweud mai dim ond “dyfalu” yw hyn.

Disgwyl datganiad gan Martinez

Ynghynt yn y mis, roedd Brendan Rodgers wedi gwrthod cyfle i drafod gyda nhw gan ddweud ei fod eisiau aros yn Stadiwm Liberty ar hyn o bryd.

Y ffefryn arall am y swydd yw Roberto Martinez, rheolwr Wigan a chyn-reolwr yr Elyrch ac yn ôl papur newydd y Liverpool Echo, mae disgwyl i’r Catalanwr wneud datganiad ynglŷn â’i ddyfodol yn fuan.

Mae perchennog Wigan a chapten y clwb wedi gwneud yn glir y byddai Martinez yn ddewis da i Anfield.