Struart Jones yn arwyddo i Aber (llun o wefan CPD Aberystwyth)
Mae Aberystwyth wedi arwyddo amddiffynwr Llanelli, Stuart Jones heddiw gan ddangos eu huchelgais ar gyfer y tymor newydd.

Jones yw’r chwaraewr cyntaf i’r rheolwr newydd Tomi Morgan arwyddo dros yr haf ond mae’r clwb yn addo y bydd mwy o wynebau newydd yn cyrraedd Coedlen y Parc cyn dechrau’r tymor nesaf.

Mae Jones yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond wedi treulio’r saith tymor diwethaf yn chwarae i Lanelli.

Cyn hynny roedd ar lyfrau Abertawe, ac fe chwaraeodd hefyd i dîm dan 21 Cymru.

Pan arwyddodd i Lanelli yn 2005, ef oedd chwaraewr llawn amser y clwb ers dros hanner can mlynedd.

Ers hynny mae wedi bod yn  rhan allweddol o dîm Andy Legg, ac ef oedd capten y clwb.

Profiad

Yn ôl Tomi Morgan bydd y trosglwyddiad yn un poblogaidd iawn ar Goedlen y Parc.

“Mae arwyddo Stuart yn beth gwych i glwb Aberystwyth” meddai Morgan.

“Mae ganddo lwyth o brofiad, nid yn unig gyda Llanelli ond hefyd ers ei gyfnod gydag Abertawe. Gobeithio bydd ei brofiad yn profi’n werthfawr wrth i ni geisio torri mewn i’r chwech uchaf tymor nesaf.”

“Hefyd, mae’r ffaith ei fod yn chwaraewr lleol yn mynd i helpu wrth i ni geisio denu cymaint â phosib o gefnogwyr i Goedlen y Parc.”