Wrecsam 0– 1 Alferton

Mae gobeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad o Uwch Gynghrair y Blue Square heb gymorth y gemau ail gyfle yn fain iawn ar ôl iddynt golli ar y Cae Ras brynhawn Gwener. Alferton oedd yr ymwelwyr ac roedd gôl anthony Wilson ddau funud cyn yr egwyl yn ddigon i gipio’r tri phwynt i’r tîm o’r hanner isaf.

Cafodd Mathias Pogba gyfle i roi’r Dreigiau ar y blaen toc wedi hanner awr o chwarae ond cafodd ei ergyd ei harbed  gan Jon Stewart. Ychydig iawn a gynigodd Wrecsam fel arall ac aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 43 munud.Peniodd Wilson gic gornel Josh Law yn galed heibio i Joslain Mayebi i roi cur pen i Andy Morrell ar hanner amser.

Roedd ei dîm yn well wedi’r egwyl ond prin iawn oedd y cyfleoedd o hyd. Daeth Jamie Tolley yn agos ond cadwodd Alferton eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn parhau wyth pwynt y tu ôl i Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square a’r gemau ail gyfle yw eu unig gyfle realistig o ennill dyrchafiad y tymor hwn bellach.

Mae’n debyg iawn y bydd un ar ddeg pwynt yn gwahanu’r ddau dîm cyn y gêm rhyngddynt yn Stadiwm Highbury nos Fercher a bydd buddugoliaeth i Fleetwood yn ddigon i sicrhau’r teitl i’r Saeson.