Abertawe 0–2 Newcastle

Colli fu hanes Abertawe yn erbyn Newcastle yn Stadiwm Liberty brynhawn Gwener. Mae’r Elyrch yn aros yn hanner gwaelod yr Uwch Gynghrair wedi i Papiss Cisse sgorio gôl ym mhob hanner i’r Magpies.

Mae amddiffyn Abertawe wedi bod yn hynod gadarn ar y Liberty hyd yma’r tymor hwn ond pum munud yn unig a gymerodd hi i Newcastle sgorio’r gôl agoriadol brynhawn Gwener. Daeth pas dreiddgar Yohan Cabaye o hyd i Cisse ar ochr y cwrt cosbi ac ergydiodd yntau’n gadarn ac yn gywir i’r gornel isaf. Fe gafodd Michel Vorm law arni ond dim digon i atal y gŵr o Senegal rhag sgorio.

Mae Gylfi Sigurdsson wedi sgorio sawl gôl arbennig o bellter dros yr wythnosau diwethaf a bu bron iddo ail adrodd y gamp wedi hanner awr o’r gêm yma ond llwyddodd Tim Krul i wneud arbediad da yn uchel i’w chwith.

Yr Elyrch oedd yn rheoli’r meddiant fel arfer ond roedd gan yr ymwelwyr ychydig bach mwy i’w gynnig o flaen gôl a phwysleiswyd hynny eto hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Daeth yr ail gôl wedi 69 munud a gôl ddigon tebyg i’r gyntaf oedd hi, pas dreiddgar Cabaye yn hollti amddiffyn Abertawe cyn i Cisse grymanu’r bêl yn gelfydd heibio i Vorm ac i’r gornel uchaf.

Parhau i reoli’r meddiant a phwyso a wnaeth Abertawe wedi hynny ac er y bu rhaid i Krul arbed dau gynnig gan Scott Sinclair daliodd Newcastle eu gafael ar y tri phwynt.

Er bod Brendan Rodgers yn siomedig â’r canlyniad doedd ddim yn gweld bai o gwbl ar ymdrech ei chwaraewyr:

“Dwi’n teimlo dros y chwaraewyr achos y mae Newcastle yn dîm sydd wedi gwneud yn dda iawn eleni ond dwi’n meddwl inni chwarae’n well na nhw heddiw. Roedd ein pasio ni’n wych ar adegau ond yr hyn y methon ni ei wneud oedd rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd.”

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn yr unfed safle ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair wrth iddynt golli cyfle i ddychwelyd i’r hanner uchaf.