Y Seintiau Newydd – Llanelli
Bydd y Seintiau Newydd yn croesawu Llanelli a chamerâu Sgorio i Neuadd y Parc nos Sadwrn a gall tîm Craig Harrison gipio Uwch Gynghrair Cymru os aiff canlyniadau eraill o’u plaid dros y penwythnos.
Er bod y Seintiau ar dân yn y gynghrair ac yn rownd derfynol Cwpan Cymru nid yw’r tîm o Groesoswallt wedi cael yr wythnos orau erioed.
Daeth eu rhediad o un ar ddeg buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth i ben nos Fawrth wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn y Drenewydd yng Nghwpan y Gynghrair. Roedd gôl hwyr Luke Boundford yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Drenewydd ar y noson ac i ennill y rownd gynderfynol dros y ddau gymal.
Dylid nodi i’r Seintiau wneud sawl newid i’r tîm a gurodd y Bala mewn steil yng Nghwpan Cymru’r wythnos diwethaf ond bu rhaid iddynt ganolbwyntio ar gwpan honno ac Uwch Gynghrair Cymru yn unig bellach.
Ac er bod y Seintiau ar frig y gynghrair does dim sicrwydd y byddant yn cystadlu ynddi’r flwyddyn nesaf wedi i Gymdeithas Bêl Droed Cymru’r wythnos hon wrthod rhoi trwydded i’r clwb ar gyfer tymor 2012-13. Mae Rheolwr Cyffredinol y Seintiau, Ian Williams, yn hyderus y caiff y penderfyniad hwnnw ei newid yn dilyn apêl, ond tasg Craig Harrison fydd cadw sylw ei dîm ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae.
Nid y Seintiau yn erbyn Llanelli fydd yr unig frwydr ar y cae ychwaith wrth i Greg Draper a Rhys Griffiths fynd benben am yr esgid aur. Griffiths yw prif sgoriwr y gynghrair gydag ugain gôl ar hyn o bryd ond dim ond un gôl yn llai y mae blaenwr y Seintiau, Greg Draper, wedi sgorio. Ac o’r ddau, Draper yw’r un sydd ar dân ar hyn o bryd, mae blaenwr rhyngwladol Seland Newydd wedi sgorio wyth gôl mewn chwe gêm gynghrair yn 2012.
Roedd hi’n dipyn o gêm y tro diwethaf i’r ddau dîm yma gyfarfod ar Neuadd y Parc ar Dachwedd y pumed. 4-2 i’r tîm cartref oedd y sgôr y tro hwnnw a byddai canlyniad tebyg nos Sadwrn yn symud y Seintiau gam yn nes at y teitl.
Yn wir, gall Y Seintiau gipio’r gynghrair gyda buddugoliaeth yn erbyn Llanelli os all Y Bala wneud ffafr â hwy trwy guro Bangor yn Nantporth nos Wener. Pedwar pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm ar hyn o bryd gyda thair gêm yn weddill.
Mae Sgorio yn dechrau am 17:00 gyda’r gic gyntaf o Neuadd y Parc am 17:10.