Y Seintiau Newydd – Llanelli

Bydd Llanelli yn teithio i Neuadd y Parc i wynebu’r Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn. Ac er nad yw pencampwyr 2008 bellach yn brwydro am y teitl byddant yn awyddus i roi cnoc fach i obeithion y Seintiau o gipio’r gynghrair gyda buddugoliaeth oddi cartref.

Nid yw ail hanner y tymor wedi bod yn un llewyrchus iawn i Lanelli, dim ond pum pwynt y maent wedi eu casglu allan o ddeunaw posibl ers i’r gynghrair hollti’n ddwy. Dim ond un gêm y maent wedi ennill yn 2012 a hynny yn erbyn Prestatyn.

Wedi dweud hynny cawsant ganlyniad digon canmoladwy yn eu gêm ddiwethaf, gêm gyfartal oddi cartref ym Mangor er iddynt fod ddwy gôl ar ei hôl hi ar yr egwyl. Adeiladu ar y pwynt hwnnw yn Nantporth fydd gobaith y Cochion yn Neuadd y Parc nos Sadwrn.

Ond nid yw Llanelli wedi profi llawer o lwyddiant yng Nghroesoswallt dros y tymhorau diwethaf. 4-2 o blaid y Seintiau oedd y sgôr ym mis Tachwedd, ac yn wir, nid ydynt erioed wedi ennill ar gae bob tywydd Neuadd y Parc. Rhaid mynd yn ôl i 2006 ac i’r Dreflan i ddod o hyd i fuddugoliaeth oddi cartref ddiwethaf Llanelli yn erbyn y Seintiau.

Mae ambell si yr wythnos hon yn awgrymu y bydd ymosodwr Llanelli a phrif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru am y chwe thymor diwethaf, Rhys Griffiths, yn ymuno â’r Seintiau’r tymor nesaf. Ac er y bydd Andy Legg yn awyddus iawn i gadw ei brif sgoriwr ar Stebonheath bydd yn fwy poenus ar hyn o bryd am ei rediad gwael diweddar o flaen gôl.

Er mai Griffiths yw prif sgoriwr y gynghrair eto’r tymor hwn hyd yma dim ond un o’i ugain gôl sydd wedi dod yn 2012. A gyda Greg Draper o’r Seintiau yn dynn wrth ei sodlau bydd rhaid iddo ail ddarganfod ei esgidiau sgorio os yw am gipio’r esgid aur am y seithfed tymor yn olynol. A pha adeg well i wneud hynny na nos Sadwrn o flaen camerâu Sgorio.

Bydd angen gwyrth ar Lanelli i orffen yn y trydydd safle bellach gan fod deg pwynt yn eu gwahanu hwy a Chastell Nedd gyda dim ond pedair gêm ar ôl. Ond byddai tri phwynt neu un o leiaf yn helpu’r Cochion i gynnal y bwlch rhyngddynt a’r Bala yn y pumed safle. Tri phwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm ar hyn o bryd ac maent yn chwarae’i gilydd yr wythnos nesaf.

 Mae Sgorio yn dechrau am 17:00 gyda’r gic gyntaf o Neuadd y Parc am 17:10.