Wedi’r fuddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn Manchester City y penwythnos diwethaf, mae’r Elyrch yn teithio i Fulham yfory.
Os fyddan nhw’n cipio’r triphwynt, fe fydd yr Elyrch yn dringo i’r wythfed safle yn Uwch Gyngrhair Lloegr.
Fe fydd criw Brendan Rodgers yn wynebu tîm sydd ar rediad da yn ddiweddar. Gyda Pavel Pogrebnyak wedi sgorio pump gôl mewn pedair gêm ers iddo gyrraedd ar fenthyg o Stuttgart, fe fydd Fulham yn dîm peryglus.
Ond mae Steven Caulker yn mynnu bod yr Elyrch wedi anghofio’r fuddugoliaeth ac yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Fulham.
‘‘Mae wedi bod yn wythnos dda, mae’r bechgyn yn hynod o falch o guro’r tîm oedd ar frig y dabl,’’ meddai Caulker.
‘‘Roedd yn anhygoel i edrych ar y tabl nos Sul diwethaf, a gweld ein hunain tri phwynt o dan Lerpwl. Ond yn awr rydym yn canolbwyntio ar y gêm nesaf. Rydym wedi mwynhau’r ganmoliaeth ond nawr mae’n rhaid i ni dderbyn yr her sydd o’m blaenau ddydd Sadwrn,’’ ychwanegodd.
Ers cyrraedd y Liberty ar fenthyciad tymor hir o Tottenham Hotspur yr haf diwethaf, mae Caulker wedi rhagori yn ei 17 ymddangosiadau hyd yn hyn.
Ac am ei ddyfodol gyda’r clwb…
‘‘Mae yna ddeg gêm i fynd, ac fy nod bersonol yw chwarae bob gêm sy’n bosibl. Tymor nesaf, rwyf am gael fy ystyried i fod yn chwarae’n rheolaidd, ond mae hynny’n rhywbeth a fydd yn cael ei benderfynu yn yr haf,’’ meddai Caulker.
‘‘Rwyf wedi mwynhau’r profiad. Mae’r hyfforddwr yn wych ac mae wedi bod yn brofiad arbennig i mi.’’