Mae cyn-chwaraewr Cymru a Wrecsam, Mark Jones, wedi arwyddo cytundeb newydd tair-blynedd gyda Chlwb Pêl-droed y Bala.
Dyma’r cytundeb hiraf i’r clwb ei roi i un chwaraewr, a dywedodd llefarydd eu bod nhw wrth eu boddau yn cael cadw eu capten.
“Mae’r clwb wedi cyflawni gorchest i ddal gafael ar Mark gan fod clybiau proffesiynol eraill wedi ceisio ei ddenu. Mae’r cytundeb yma’n arwydd o uchelgais brwd y Bala i aros ar y lefel uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru.”
Mark Jones yw un o enwau mwyaf Uwch Gynghrair Cymru ac mae’n ffefryn ymhlith y dorf ar Faes Tegid. Ar hyn o bryd saif tîm Colin Caton yn bumed ac mae’r clwb yn gobeithio y bydd y cefnogwyr yn dod i ddiolch i Mark Jones pan fydd y tîm sy’n drydydd yn y gynghrair, Castell Nedd, yn ymweld â Maes Tegid ar Fawrth 25.