Mae’r Bala wedi cadarnhau eu bod wedi ymestyn cytundebau tri o chwaraewyr allweddol y clwb.

Mae Mark Connolly, Conall Murtagh a Stuart Jones oll wedi cadarnhau eu bod yn aros gyda’r clwb sydd wedi cyrraedd hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru wrth iddi dorri’n ddau eleni.

Yn ôl y clwb mae’r newyddion yn arddangos uchelgais y clwb i gynnal eu lle ar lefel uchaf pêl-droed yng Nghymru.

Daw’r newyddion yn fuan ar ôl i ddau chwaraewr arall dylanwadol gadarnhau eu bod yn aros gyda’r clwb, sef Ian Sheridan a’r prif sgoriwr Lee Hunt.

Meddai’r clwb eu bod hefyd mewn ‘trafodaethau difrifol’ gydag aelodau eraill o’r garfan a’u bod yn gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o newyddion cytundebol yn ystod yr wythnos.