Morrell - Sgoriwr yr unig gôl (llun o wefan y clwb)
Kidderminster 0–1 Wrecsam

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth arall yn Uwch Gynghrair y Blue Square nos Fawrth wedi iddynt deithio i Stadiwm Aggborough i wynebu Kidderminster. Fe rwydodd y Dreigiau bedair yn erbyn Hayes a Yeading brynhawn Sadwrn ond roedd un gôl gan y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt yn Kidderminster ganol wythnos.

Daeth unig gôl y gêm wedi tri munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan fanteisiodd Morrell ar fethiant yr amddiffyn cartref i glirio’r bêl yn dilyn cic rydd Neil Ashton.

Cafodd y Dreigiau gyfleoedd i ddyblu’r fantais yn yr ail hanner. Methodd Jake Speight a tharo’r targed gydag ergyd yn fuan wedi’r egwyl a pheniodd y blaenwr dros y trawst chwarter awr o’r diwedd. Cafodd Mathias Pogba gyfle hwyr hefyd ond arbedodd Tony Breeden ei gynnig yntau.

Ond roedd un gôl yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Wrecsam. Aros yn ail mae’r Dreigiau er gwaethaf y fuddugoliaeth honno gan i Fleetwood roi cweir i Ebbsfleet.