Tamworth 2–1 Casnewydd

Sgoriodd Tamworth ddwy gôl hwyr i gipio’r pwyntiau oddi ar Gasnewydd yn y Lamb Ground nos Fawrth. Roedd y tîm o Gymru ar y blaen am ran helaeth o’r gêm yn Uwch Gynghrair y Blue Square diolch i gôl gynnar Sam Foley ond tarodd y tîm cartref yn ôl i ddwyn y fuddugoliaeth yn y deg munud olaf.

Roedd yn rhaid i Glyn Thompson yn y gôl i Gasnewydd fod ar flaenau ei draed wedi dim ond 15 eiliad o’r gêm i arbed ergyd Liam McDonald. Ond roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen bum munud yn ddiweddarach.

Cafodd Elliot Buchanan ei lorio yn y cwrt cosbi gan Paul Green a chymerodd Foley’r gic o’r smotyn gan sgorio’i ail gôl mewn pedwar diwrnod.

Cafodd Thompson ei gadw’n brysur am weddill yr hanner ond llwyddodd y gôl-geidwad i gadw ei dîm ar y blaen tan yr egwyl.

Tamworth a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr ail hanner hefyd ac er i Gasnewydd ddod o fewn saith munud i gipio’r tri phwynt doedd dim llawer o syndod pan unionodd Scott Barrow y sgôr i’r tîm cartref. Daeth Thompson allan o’i gwrt cosbi gan lorio Kyle Patterson ac anelodd Barrow y gic rydd ganlynol heibio’r gôl-geidwad ac i gornel uchaf y rhwyd i’w gwneud hi’n gyfartal.

Ond roedd gwaeth i ddod i dîm Justin Edinburgh ddau funud yn ddiweddarach wrth i Danny Thomas sgorio i gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref. Daeth Charles Reece o hyd i Thomas yn y cwrt cosbi a sgoriodd yntau i dorri calonnau’r Cymry bum munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Blue Square.