Cyhoeddwyd heddiw fod Clwb Pêl Droed Wrecsam bellach wedi cael ei drosglwyddo i ofalaeth ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
Daw hyn ar ôl cyfnod hir o ansicrwydd am ddyfodol y clwb.
Fe gytunwyd ar egwyddor y byddai’r cefnogwyr yn prynu’r clwb ym mis Medi ond bu’n rhaid aros i gymdeithas bel droed Lloegr gymeradwyo’r cais.
Gyda’r clwb pêl droed yn nwylo’r cefnogwyr, eu nod yn nawr fydd i ‘wyrdroi’ sefyllfa’r Dreigiau.
Dywedodd Gary Pritchard sy’n aelod o ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam ac yn gefnogwr brwd i’r clwb: “Mae’n newyddion gwych.”
“Ry’n ni wedi disgwyl am hyn ers tro a gobeithio bydd yn gwyrdroi sefyllfa Wrecsam ar y cae ac oddi ar y cae,” dwedodd wrth Golwg360.
Fe fydd ymateb swyddogol gan Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn ystod y diwrnodau nesaf.
Yn y cyfamser mae sylw’r cefnogwyr yn medru troi at eu gem yn erbyn Darlington heno.
“Ry’n ni’n ail yn y gynghrair ar hyn o bryd oherwydd gwahaniaeth goliau felly gobeithio gallwn ni drechu Darlington oddi cartref, ennill dyrchafiad yw’r nod,” meddai Gary Pritchard.