Aberystwyth 1-2 Airbus

Cipiodd Airbus y tri phwynt mewn gêm agos yng Nghoedlen y Parc nos Wener er i Aberystwyth fod ar y blaen ar hanner amser.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ddau funud cyn yr egwyl pan fanteisiodd Geoff Kellaway ar amddiffyn llac Airbus.

Ond yn ôl y daeth yr ymwelwyr wedi’r egwyl wrth i Eddie Hope unioni’r sgôr wedi 50 munud yn dilyn gwaith da gan Ryan Edwards i lawr yr asgell chwith.

A dwynodd Airbus y tri phwynt gyda gôl Adam Worton ddeg munud o’r diwedd. Roedd hi’n ergyd dda o 30 llath gan chwaraewr Airbus ond dylai Steve Cann yn y gôl i Aber fod wedi gwneud yn well.

Tarodd Kellaway’r postyn yn hwyr yn y gêm a daliodd Airbus eu gafael ar y fuddugoliaeth. Buddugoliaeth sydd yn eu codi dros Bort Talbot i’r seithfed safle tra mae Aberystwyth yn disgyn un lle i’r degfed safle.

 

Lido Afan 3-1 Y Seintiau Newydd

Daeth Lido Afan o hyd i’w ’sgidiau sgorio o’r diwedd nos Wener gan drechu’r Seintiau yn Stadiwm Marstons.

Aeth y Seintiau ar y blaen wedi dim ond 19 eiliad o’r gêm, pas dreiddgar Alex Darlington yn dod o hyd i Greg Draper ac yntau’n codi’r bêl yn gelfydd dros Chris Curtis.

Ond gêm Lido oedd hi ar ôl hynny ac roeddynt 2-1 ar y blaen erbyn hanner amser. Daeth y gyntaf i Carl Payne wedi 18 munud yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Jonathan Hood cyn i Hood ychwanegu’r ail ei hunan gyda chic rydd wych o 25 llath wedi 41 munud.

Sicrhawyd y tri phwynt i Lido toc cyn yr awr pan fanteisiodd Payne ar amddiffyn gwael y Seintiau i sgorio’i ail o’r gêm.

Canlyniad cofiadwy i Lido Afan a chanlyniad sydd yn eu codi o safleoedd y gwymp i’r nawfed safle. Mae’r Seintiau ar y llaw arall yn disgyn i’r trydydd safle ar ôl colli eu hail gêm yn olynol.

Bangor 4-0 Caerfyrddin                          

Enillodd Bangor yn rhwydd yn y diwedd yn erbyn Caerfyrddin ar Ffordd Farrar brynhawn Sadwrn yn y gêm rhwng y tîm ar frig y gynghrair a’r tîm ar y gwaelod.

Cadwodd Caerfyrddin hi’n ddi sgôr am yr awr gyntaf cyn i Fangor sgorio pedair yn yr hanner awr olaf i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.

Sgoriodd Les Davies y gyntaf ar yr awr gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi cyn i Mark Smyth ychwanegu’r ail dri munud yn ddiweddarach. Gwnaeth Neil Thomas hi’n dair yn dilyn symudiad gorau’r gêm wedi 78 munud a chwblhaodd Kyle Wilson y sgorio bum munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi’r pencampwyr, Bangor i’r brig tra mae Caerfyrddin yn aros ar waelod y tabl.

Prestatyn 2-1 Port Talbot

Roedd drama hwyr yng Ngherddi Bastion brynhawn Sadwrn wrth i Brestatyn gipio buddugoliaeth yn erbyn deg dyn Port Talbot gyda chic o’r smotyn hwyr. Rhoddodd Ross Stephens y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Chris Hartland unioni pethau yn yr ail. Yna sgoriodd Stephens gic o’r smotyn ddadleuol wedi 94 munud i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Llanelli 3-1 Bala

Cafodd Llanelli fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Bala ar Stebonheath brynhawn Sul.

Rhoddodd Rhys Griffiths y tîm cartref ar y blaen wedi 28 munud gyda’i ddeunawfed gôl o’r tymor, ac roedd hi’n ddwy chwe munud cyn yr egwyl diolch i Craig Williams.

Ychwanegodd Antonio Corbisiero y drydedd i’r Cochion wedi 77 munud er mwyn sicrhau’r tri phwynt. Sgoriodd Chris Mason i’r Bala bum munud cyn y diwedd ond gôl gysur yn unig oedd honno.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Llanelli i’r ail safle yn y tabl tra mae’r Bala yn aros yn bumed.

Castell Nedd 5-0 Drenewydd

Cafodd rheolwr dros dro newydd Castell Nedd, Kristian O’Leary ddechrau perffaith i’w gyfnod wrth y llyw wrth i’w dîm roi crasfa iawn i’r Drenewydd ar y Gnoll brynhawn Sul.

Rhoddodd Kerry Morgan yr Eryrod ar y blaen wedi 17 munud yn dilyn symudiad da cyn i Chris Jones ac Ian Hillier ychwanegu dwy arall cyn yr egwyl. Roedd hi’n bedair toc cyn yr awr wedi i Craig Hughes ymuno yn yr hwyl. Yna, sgoriodd Morgan ei ail ef a phumed ei dîm gyda foli daclus chwarter awr o’r diwedd.

Aros yn bedwerydd y mae Castell Nedd er gwaethaf y canlyniad gwych ond mae’r Drenewydd ar y llaw arall yn disgyn i’r unfed safle ar ddeg.