Joe Allen - Ddim digon ffit i ddechrau
Abertawe 0-1 Manceinion Unedig

Collodd Abertawe yn Stadiwm Liberty am y tro cyntaf y tymor hwn yn erbyn y pencampwyr, Manceinion Unedig heno. Roedd gôl gynnar Javier Hernandez yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r cewri o Fanceinion mewn gêm heb lawer o gyfleoedd.

Yn ôl llawer, hon oedd gêm fwyaf y tîm o Gymru ers eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ond y Cymro bytholwyrdd yn nhîm yr ymwelwyr a wnaeth argraff gynnar gan greu’r gôl agoriadol. Collodd  amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel y meddiant gan gyflwyno’r bêl i Ryan Giggs ar yr asgell chwith. Rhedodd yntau yn bwrpasol cyn croesi i Hernandez yn y canol a rhwydodd yntau yn daclus heibio i Michel Vorm yn y gôl i Abertawe.

Methodd Scott Sinclair gyfle euraidd i unioni’r sgôr hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn croesiad gwych gan Wayne Routledge ond roedd Abertawe dal yn y gêm ar yr egwyl.

Doedd Joe Allen ddim yn ddigon ffit i ddechrau’r gêm ac roedd Abertawe’n gweld ei golli yn yr hanner cyntaf. Doedd dim amdani i Brendan Rodgers ar hanner amser felly ond dod ag Allen i’r cae a gwireddu breuddwyd oes y cefnogwr Man U.

Llwyddodd Abertawe i chwarae eu gêm basio atyniadol arferol yn erbyn un o dimau cryfaf y gynghrair a’r Elyrch a reolodd y gêm am rannau helaeth o’r ail gyfnod. Ond er gwaethaf eu holl feddiant yn yr ail hanner methodd y tîm o Gymru greu unrhyw gyfleoedd da.

Yn wir, yr ymwelwyr oedd yn edrych fwyaf tebygol i sgorio yn y munudau olaf gyda Phil Jones yn taro’r postyn ar ôl rhediad da a Nani yn dod yn agos gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi yn symudiad olaf y gêm.

Roedd hwn yn berfformiad clodwiw gan Abertawe ond nid gemau yn erbyn timau fel Man U fydd yn penderfynu os wnaiff yr Elyrch aros yn yr Uwchgynghrair eleni. Wedi dweud hynny, mae’r canlyniad yn un eithaf costus i Abertawe o ran eu safle yn y tabl. Maent yn disgyn i’r trydydd safle ar ddeg gan i Everton, QPR a West Brom neidio drostynt gyda buddugoliaethau heddiw.