Grimsby 2-2 Casnewydd

Dylai Casnewydd fod wedi ennill yn Grimsby heddiw ar ôl bod ddwy gôl ar y blaen yn y chwarter cyntaf ond bydd y tîm yn dychwelyd i Gymru gyda dim ond pwynt ar ôl ildio dwy gôl yn y deuddeg munud olaf.

Dim ond 76 eiliad a oedd wedi’i chwarae ym Mharc Blundell pan beniodd Wayne Hatswell Casnewydd ar y blaen yn dilyn croesiad Robbie Matthews.

Ac roedd hi’n ddwy toc wedi chwarter awr o’r gêm diolch i Nat Jarvis. Sgoriodd y blaenwr gydag ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd yn dilyn gwaith creu Matthews unwaith eto. 2-0 i’r ymwelwyr o dde Cymru ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Yn wir, felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o’r diwedd pan dynnodd Serge Makofo gôl yn ôl i Grimsby. Daeth Craig Disley o hyd i Makofo yn y cwrt chwech a gwnaeth yntau’r gweddill.

Yna, gyda dim ond pedwar munud o’r 90 ar ôl unionodd Anthony Elding y sgôr i Grimsby o’r smotyn yn dilyn llawio yn y cwrt cosbi gan Andrew Hughes.

Efallai y byddai Casnewydd wedi derbyn gêm gyfartal cyn y gic gyntaf ond bydd hon yn teimlo fel colled i dîm Justin Edinburgh ar ôl bod ddwy gôl ar y blaen gyda chwarter awr yn weddill.

Aros yn safleoedd y gwymp Uwchgynghrair y Blue Square y mae Casnewydd felly ar ôl colli dau bwynt yn Grimsby.