Wrecsam 2-0 Lincon
Roedd dwy gôl gan Mathias Pogba yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth arall i Wrecsam yn Uwchgynghrair y Blue Square ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn. Sgoriodd y blaenwr gydag ergyd o bellter yn gynnar yn yr hanner cyntaf ac yna o’r smotyn toc wedi’r awr er mwyn ennill y tri phwynt i’r Dreigiau.
Un munud ar ddeg oedd ar y cloc pan roddodd Pogba Wrecsam ar y blaen o 20 llath. Dylai gôl-geidwad Lincon, Paul Farman fod wedi gwneud yn well gan i’r bêl lithro o dan ei gorff cyn croesi’r llinell gôl.
Gallai Jay Harris fod wedi ei gwneud hi’n 2-0 i’r tîm cartref cyn yr egwyl ond tarodd ei ymdrech yn erbyn y trawst.
Doedd dim llawer y gallai Farman fod wedi ei wneud i atal ail Pogba wedi 61 munud wrth i’r blaenwr orffen yn dda o ddeuddeg llath. Ond roedd peth dryswch cyn i’r gic gael ei chymryd gan fod y dyfarnwr cynorthwyol yn anghytuno â’r dyfarnwr ynglŷn â’r penderfyniad. Barnodd y dyfarnwr fod John Nutter wedi llawio ergyd Andy Morell a rhoddodd y gic o’r smotyn i Wrecsam er gwaethaf amheuon ei gynorthwyydd.
Daeth Harris yn agos eto wedi hynny ond doedd dim mwy o goliau wrth iddi orffen yn 2-0.
Hon oedd chweched llechen lân tîm Andy Morrel yn olynol yn y gynghrair ac mae’r canlyniad yn eu cadw ar frig y gyngres am y tro.