Wittingham - Seren Caerdydd
Reading 1-2 Caerdydd
Mae rhediad da Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau yn dilyn buddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Reading yn Stadiwm Madejski.
Peter Wittingham oedd seren y gêm i’r Adar Gleision, y chwaraewr canol cae yn sgorio’r gyntaf yn gynnar yn y gêm cyn creu’r ail i Mark Hudson hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Rhoddodd Wittingham yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond dau funud o chwarae gydag ergyd wych o 30 llath. Cafodd gyfle i ychwanegu ei ail ef ac ail ei dîm gyda chic rydd yn hwyr yn yr hanner hefyd ond arbedodd Adam Federici yn y gôl i Reading wrth iddi aros yn 1-0 ar yr egwyl.
Daeth yr ail gôl holl bwysig i Gaerdydd hanner ffordd trwy’r ail hanner ac roedd Wittingham yn ganolog unwaith eto. Dyfarnwyd cic rydd i’r Adar Glesion yn dilyn trosedd Shaun Cummings ar Craig Conway, cymerodd Wittingham y gic cyn i’r amddiffynnwr, Hudson rwydo gydag ergyd i gornel isaf y rhwyd.
Ond roedd hi’n chwarter awr olaf nerfus iawn i’r tîm o Gymru wedi i Reading dynnu un gôl yn ôl wedi 77 munud, peniad Jimmy Kebe wrth y postyn agosaf yn mynd heibio i David Marshal yn y gôl.
Roedd mwy o le i Gaerdydd ymosod yn y munudau olaf wrth i Reading chwilio am y gôl i unioni’r sgôr a chafodd Don Cowie gyfle da i sicrhau’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm ond arbedodd Federici yn dda. Ond dal eu gafael a wnaeth Caerdydd er mwyn sicrhau buddugoliaeth dda iawn yn y Madejski.
Mae Caerdydd yn aros yn y pedwerydd safle yn dilyn y canlyniad ond yn cau’r bwlch ar Middlesbrough yn y trydydd safle gan mai dim ond gêm gyfartal a gawson nhw yn erbyn Blackpool heddiw.