Cyflwynwyr Sgorio
Pwy sydd yn nhîm yr wythnos criw Sgorio’r wythnos hon?

Golwr

Andy Mulliner (Airbus UK)

Roedd yr hen ben yn wych i Airbus yn Lanelli wrth i fois y Maes Awyr ddychwelyd o Barc Stebonheath efo pwynt

Amddiffyn

Kai Edwards (Castell-nedd)

Sgoriodd Edwards ei gôl gyntaf erioed yn uwch Gynghrair Cymru dros y Sul ac roedd yn gôl y byddai unrhyw chwaraewr wedi bod yn falch ohoni!

Michael Johnston (Bangor)

Dewis Malcolm Allen fel seren y gêm fyw ddydd Sadwrn wrth iddo brofi’n gawr unwaith eto yn amddiffyn Bangor yn erbyn Aberystwyth

Steve Evans (Y Seintiau Newydd)

Mae Evans wedi cael ei broblemau gyda’r Seintiau ond roedd ar ei orau nos Wener ym Mhrestatyn gan amddiffyn yn gadarn a chreu un o goliau’r ymwelwyr

Ryan Batley (Aberystwyth)

Cafodd gêm arbennig o dda i 10-dyn Aberystwyth lle mae ar fenthyg o Lanelli – rhyfedd o fyd gyda Llanelli’n gorfod gweld eu chwaraewr-reolwr yn dod i’r maes yn yr union safle

Canol Cae

Sean Thornton (Aberystwyth)

Un arall o dîm Aberystwyth gafodd gêm dda yn erbyn y pencampwyr er gwaethaf colled y 10-dyn

Matty Cook (Y Drenewydd)

Capten Y Drenewydd reolodd y gêm i’w dîm ar Faes Tegid nos Wener ac er na lwyddodd ei dîm i gipio’r triphwynt rhoddwyd braw i un o geffylau blaen yr adran

Mark Jones (Y Bala)

Mae Jones yn sicrhau ei le yn nhîm yr wythnos unwaith eto ar ôl perfformiad gwych yng nghanol cae’r Bala welodd o’n achub pwynt gydag eiliadau’n weddill yn y gêm gyda gôl gwbwl odidog!

Ymosodwyr

Jonathan Hood (Lido Afan)

Er na chafodd Hood gôl brynhawn Sul, roedd yn ddraenen yn ystlys Castell-nedd trwy’r prynhawn wrth i Lido gipio pwynt yng nghartref y Galacticos!

Martin Rose (Port Talbot)

Sgoriodd Rose ddwy gôl wrth i Bort Talbot drechu Caerfyrddin ac roedd yn amlwg yn ymdopi â’r pwysau o fod yn brif ymosodwr y clwb unwaith eto nawr fod Cortez Belle wedi anafu

Greg Draper ( Y Seintiau Newydd)

Sgoriodd y gŵr o Seland Newydd o fewn 30 eiliad i ddechrau’r ail hanner ym Mhrestatyn er mwyn ychwanegu at ei gyfanswm teilwng o goliau yn barod y tymor yma

Cofiwch bod adroddiadau ac uchafbwyntiau’r holl gemau i’w gweld fan hyn. Gallwch weld ail-ddarllediad o raglen Sgorio nos Lun heno (nos Fawrth) a 23:10 ar S4C.