Deuddydd cyn i Gymru wynebu Estonia yn Wrecsam, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod cynnydd o 50% wedi bod yng ngêm y merched yn y wlad hon ers 2016.
Dywed y Gymdeithas fod 8,600 o ferched wedi cofrestru gyda chlybiau yng Nghymru, sy’n fwy nag erioed.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Gymdeithas baratoi i ehangu ei rhaglen Huddle.
Wedi’i lansio’r llynedd, cynllun ar gyfer merched 5 i 12 oed yw Huddle sy’n ceisio pontio’r bwlch rhwng pêl-droed yn yr ysgol ac mewn clybiau pêl-droed.
Yn ogystal â rhaglen Huddle, mae gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru sawl rhaglen yn eu lle er mwyn cyflawni’r nod uchelgeisiol o 20,000 o chwaraewyr benywaidd cofrestredig erbyn 2024.
‘Merched yn llai hyderus na bechgyn’
“Mae ymchwil yn dangos bod merched yn debygol o fod yn llai hyderus na bechgyn wrth ymuno â chlwb chwaraeon,” meddai Caroline Spanton, prif weithredwr dros dro’r Ymddiriedolaeth.
“Nod Huddle yw rhoi cyfle i ferched ddatblygu eu sgiliau a’u hyder mewn amgylchedd hwyliog a chymdeithasol gyda’u ffrindiau.
“Rydyn ni’n falch iawn gyda’r cynnydd hyd yma ac mae’n dyst i waith gwych yr hyfforddwyr, y clybiau, y gwirfoddolwyr, y cynghreiriau a’n holl bartneriaid eraill ni sy’n darparu mwy a mwy o gyfleoedd i ferched bob blwyddyn.”
Mae nifer o’r merched sy’n chwarae’n rhyngwladol dros Gymru hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r cynllun.
“Mae’r twf yn nifer y merched sy’n chwarae pêl-droed yn newyddion gwych i’r wlad,” meddai Rhiannon Roberts, amddiffynnwr Cymru a Lerpwl.
“Bydd hyn nid yn unig yn helpu i ysbrydoli chwaraewyr y dyfodol ar lefel elitaidd, ond mae hefyd yn helpu i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru.”